ateb yn gosod 4 diffibriliwr newydd

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod, ar y cyd ag Achub Bywyd Cymru, yn gosod 4 diffibriliwr awtomatig newydd ar ein safleoedd Byw’n Annibynnol.

Byddant ar gael yn y mannau canlynol:

  • Acorn Heights, Dinbych-y-pysgod
  • Hanover Court, Dinbych-y-pysgod
  • Paterchurch, Doc Penfro
  • Marychurch, Hwlffordd.

Mae ein trydanwyr wedi bod yn ddiwyd yn gosod y cabinetau, a phan fyddwn wedi gwirio nad oes dŵr yn mynd i mewn iddynt / nad oes anwedd ynddynt (gwaith sydd fel rheol yn cymryd tua 7 i 10 diwrnod) byddwn yn gosod y diffibrilwyr ynddynt ac yn eu cofrestru ar Rhwydwaith Diffibrilwyr y DU, sef ‘The Circuit’.

Bydd y diffibrilwyr ar gael i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol.

Er mwyn defnyddio unrhyw ddiffibriliwr cyhoeddus sydd wedi’i gloi mewn cabinet, bydd angen i chi ffonio 999. Bydd y swyddog sy’n ateb eich galwad yn eich tywys trwy’r broses CPR, yn anfon ambiwlans atoch ac yn rhoi cod er mwyn i chi allu agor y cabinet. Ceir cyfarwyddiadau clir ynghylch sut mae defnyddio’r diffibriliwr, ac ni fydd y ddyfais yn rhoi sioc i unigolyn oni bai bod ei hangen arno.

Gyda dros 30,000 o bobl ledled y DU yn cael ataliad ar y galon yn rhywle heblaw’r ysbyty bob blwyddyn, a gyda llai nag un o bob deg yn goroesi, mae defnyddio diffibriliwr yn hanfodol oherwydd bod 90-95% o’r sawl sy’n cael ataliad ar y galon yn ddirybudd yn marw oni bai eu bod yn cael triniaeth ar unwaith.

Mae’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn goroesi yn gostwng hyd at 10% am bob munud y mae’n ei gymryd i ddiffibriliwr gyrraedd rhywun a rhoi sioc iddo. Felly, po fwyaf o ddiffibrilwyr sydd yn ein cymunedau, y mwyaf o fywydau y gellir eu hachub efallai.

I gael gwybod mwy am sut mae diffibrilwyr yn gweithio, ewch i wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.

At hynny, mae’r prosiect Achub Bywyd Cymru wedi cynhyrchu’r fideo defnyddiol hwn ynghylch beth y dylech ei wneud mewn argyfwng.

Cyhoeddwyn: 26/05/2022