Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod, mewn cydweithrediad ag Elusen Calon Cymru, wedi gosod 5 diffibriliwr awtomatig arall yn ein cynlluniau Byw’n Annibynnol yn DeClare Court a Hanover Court yn Hwlffordd; Kensington Court a Hanover Court yn Aberdaugleddau; a Williams Court yn Arberth. Bydd y diffibrilwyr ar gael i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol.
Gyda dros 30,000 o bobl ledled y DU yn cael ataliad ar y galon yn rhywle heblaw’r ysbyty bob blwyddyn, a gyda llai nag un o bob deg yn goroesi, mae defnyddio diffibriliwr yn hanfodol oherwydd bod 90-95% o’r sawl sy’n cael ataliad ar y galon yn ddirybudd yn marw oni bai eu bod yn cael triniaeth ar unwaith. Mae’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn goroesi yn gostwng hyd at 10% am bob munud y mae’n ei gymryd i ddiffibriliwr gyrraedd rhywun a rhoi sioc iddo. Felly, po fwyaf o ddiffibrilwyr sydd yn ein cymunedau, y mwyaf o fywydau y gellir eu hachub efallai.
Er mwyn defnyddio unrhyw ddiffibriliwr cyhoeddus sydd wedi’i gloi mewn cabinet, bydd angen i chi ffonio 999. Bydd y swyddog sy’n ateb eich galwad yn eich tywys trwy’r broses CPR, yn anfon ambiwlans atoch ac yn rhoi cod er mwyn i chi allu agor y cabinet. Ceir cyfarwyddiadau clir ynghylch sut mae defnyddio’r diffibriliwr, ac ni fydd y ddyfais yn rhoi sioc i unigolyn oni bai bod ei hangen arno.
I gael gwybod mwy am sut mae diffibrilwyr yn gweithio, ewch i wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.
At hynny, mae’r prosiect Achub Bywyd Cymru wedi cynhyrchu’r fideo defnyddiol hwn ynghylch beth y dylech ei wneud mewn argyfwng.