ateb yn gweithio ar y cyd â Smplicare i newid bywydau.

Ddydd Iau daeth Williams Court, Arberth yn gartref i gyfraniad ateb i astudiaeth ymchwil dechnolegol arloesol sy’n ymwneud yn benodol â gallu pobl dros 55 oed i fyw’n annibynnol. Roedd yn sesiwn fywiog a phleserus lle cafodd ein cwsmeriaid wybod eu bod yn ‘creu hanes’. 

Oes, mae technoleg eisoes ar gael sy’n sylwi pan fydd person wedi cwympo’n barod, ond mae’r astudiaeth hon yn wahanol iawn ac yn ymwneud â ‘rhagweld ac atal’.

Menter newydd ym Mhrifysgol Caeredin yw Smplicare, sy’n ceisio ‘trawsnewid dyfeisiau y mae pobl yn eu gwisgo bob dydd (h.y. dyfeisiau Fitbit a watshis clyfar) yn declynnau pwerus ar gyfer atal peryglon i iechyd, sy’n gysylltiedig ag oedran, gan ddechrau gydag achosion o gwympo.’

Pam y mae hynny mor bwysig? Bob blwyddyn yng Nghymru yn unig, amcangyfrifir bod yr holl achosion o gwympo ymhlith pobl hŷn yn costio £2.3 biliwn i’r GIG yng Nghymru, sy’n swm syfrdanol. Waeth beth fo’r gost ariannol, gall cwympo arwain at effeithiau hirdymor ac aruthrol i bobl hŷn, a bydd llawer ohonynt yn colli eu hannibyniaeth o ganlyniad.

Yn ateb, ein nod yw sicrhau bod ein cwsmeriaid yn parhau mor annibynnol, mor ddiogel ac mor iach ag sy’n bosibl a’u bod yn parhau i fyw cyn hired ag sy’n bosibl yn eu cartrefi eu hunain. Felly, mae’r ymchwil hon yn amhrisiadwy i’n gwaith.

Mae ein naw cwsmer wedi cytuno i fod yn rhan o astudiaeth 6 mis a fydd yn arsylwi achosion o gwympo. Maent yn addo gwisgo eu dyfeisiau bob dydd, a byddant yn eu pwyso eu hunain bob wythnos ar eu clorian glyfar gan ddarparu data amhrisiadwy a fydd yn ‘newid bywydau’.

Meddai’r cwsmeriaid, “Fe wnes i fwynhau’r sesiwn, ac rwy’n mwynhau dysgu pethau newydd am fy iechyd, diolch i’r Fitbit a’r glorian.”

“Rwy’n teimlo ei fod yn addysgiadol iawn. Rwy’n dod i wybod pethau amdanaf fy hun na fyddwn yn eu gwybod fel arfer, ac mae’n eu helpu nhw i greu cronfa ddata ar gyfer y prosiect y maent yn gweithio arno.”

Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli gyda Smplicare ar gyfer y prosiect hwn neu brosiectau yn y dyfodol drwy fynd i: www.smplicare.com

Cyhoeddwyd: 16/09/2023