Heddiw gwnaethom groesawu ein cwsmeriaid cyntaf i’w cartrefi newydd yn Nhyddewi.
Mae Sŵn y Môr yn cynnwys 38 o gartrefi newydd fforddiadwy i’w rhentu. Mae’r datblygiad wedi’i enwi ar ôl un o gychod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, a oedd yn arfer bod yn y ddinas (o 1936 tan 1963) ac a achubodd 108 o fywydau.
Gwnaethom addo i’r gymuned leol y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o’r gymuned leol y mae angen cartref arnynt, pan fyddai’r cartrefi newydd yn cael eu gosod am y tro cyntaf.
Roedd ein cynllun gosod tai i bobl leol o gymorth i ni wireddu’r addewid hwnnw, ac mae pob un o’r cartrefi wedi’u gosod i bobl sy’n byw yn Nhyddewi, Solfach a phlwyf Llanrhian neu i bobl sydd â chysylltiadau â’r mannau hynny.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cydweithio â’r gymuned leol wrth gynllunio ein datblygiadau ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio ar ein prosiect nesaf.