ateb yn lansio ein Cymanfa Les ddiweddaraf

Ym mis Hydref, dewch i ymuno â ni am ginio ac i fwrw golwg yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn yn gofyn i chi sut y mae costau byw cynyddol wedi effeithio arnoch a byddwn yn trafod ffyrdd y gallem ddarparu mwy o help.

Enw’r Gymanfa Les o’r blaen oedd y Gynhadledd Costau Byw, a bydd y digwyddiad hwn sy’n well yn gofyn i chi ein helpu drwy rannu eich profiadau, eich safbwyntiau a’ch syniadau â ni er mwyn helpu eraill.

Byddwn yn cael cwmni sefydliadau a mudiadau lleol a all gynnig help, megis y Cysylltwyr Cymunedol, yr Hwb Cymunedol, Age Cymru, Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro a llawer mwy, a byddwch yn gallu sgwrsio â nhw ar y diwrnod.

Yn ogystal, bydd Dylan MacLeod, Swyddog Ynni Cartref ateb, yn bresennol.

Gall ein Swyddog Ynni Cartref:

  • Gynnal adolygiad ynni cartref yn rhad ac am ddim er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi ynglŷn ag arbed ynni
  • Adnabod cymorth ariannol a’ch helpu i gael y cymorth hwnnw er mwyn lleihau eich biliau ynni
  • Eich helpu i ddeall eich dyfeisiau rheoli tymheredd a’ch amseryddion, a’ch helpu i’w defnyddio’n well.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae’n agored i bob un o gwsmeriaid ateb.

Bydd yno ginio blasus a llawer o de, coffi, bisgedi a chacennau.

Gallwn eich helpu i drefnu amryw fathau o gludiant, gan gynnwys cludiant i bobl anabl, a gallwn dalu holl gostau cludiant gan gynnwys os byddwch yn gyrru i’r digwyddiad.

DIM OND NIFER GYFYNGEDIG O LEOEDD SYDD AR GAEL – CYSYLLTWCH AG ATEB I GADW EICH LLE:

Book online here: https://www.surveymonkey.co.uk/r/SSWD98H

Sue Mackie (Arweinydd y Tîm Datblygu Cymunedol)  

Ali Evans (Cydlynydd Ymgysylltu)    

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiwn am y digwyddiad hwn.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.

Cyhoeddwyd: 18/09/2023