ateb yn lansio ymrwymiad newydd i les

Rydym yn deall y pwysau sydd ar gymaint o’n cwsmeriaid oherwydd costau byw, a’r effaith y gall hynny ei chael ar eu lles.

Ym mis Hydref 2022, er mwyn ymateb i’r argyfwng costau byw, aethom ati ar y cyd â chwsmeriaid i lunio sawl cam gweithredu y byddai ateb yn eu cymryd i gynorthwyo ein cwsmeriaid. Mae’r camau hynny wedi’u rhoi ar waith dros y 12 mis diwethaf gyda chymorth ein partneriaid.

Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, nid yw’r heriau hynny wedi diflannu’n anffodus, na’r risg uwch y gallai ein cwsmeriaid fod yn dioddef tlodi tanwydd ac yn ei chael yn anodd ymdopi â chostau byw o ddydd i ddydd. Felly, gwnaethom gwrdd unwaith eto â’n cwsmeriaid yn ystod yr hydref i adolygu a diweddaru ffyrdd posibl o’u cynorthwyo dros y 12 mis nesaf, gyda’n partneriaid.

Gallwch weld yr hyn yr ydym wedi’i wneud mor belled, a’n cynlluniau ar gyfer y 12 mis nesaf, yn y ddogfen y gellir ei lawrlwytho am Ymrwymiadau ateb i Les.

Os ydych yn un o gwsmeriaid ateb, mae croeso i chi ein ffonio ar 0800 854 568 os hoffech ddysgu mwy am y cymorth a allai fod ar gael i chi.

At hynny, gallwch weld ein tudalennau am gymorth gyda chostau byw yma.

Cyhoeddwyd: 15/12/2023