ateb yn rhoi’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ar waith ledled Sir Benfro

Y llynedd fe wnaethom sôn wrthych am y gwaith o gyflwyno ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, sef prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn caniatáu i ni wneud gwelliannau i eiddo ledled Sir Benfro er mwyn gwella amodau byw a helpu i ddatgarboneiddio cartrefi.

Cafodd y cyntaf o’r prosiectau ei gwblhau yn Park Avenue yng Nghilgeti lle mae dros 80 o gwsmeriaid ateb wedi elwa o waith i osod deunydd inswleiddio ar waliau allanol er mwyn hybu effeithlonrwydd thermol, a gosod synwyryddion amgylcheddol i fonitro tymheredd, lleithder, gwlithbwynt a lefelau carbon deuocsid.

Mae ein cwsmeriaid wedi bod wrth eu bodd gyda’r canlyniadau. Mewn arolwg diweddar roedd rhai yn dweud eu bod wedi sylwi ar wahaniaeth o ran pa mor gyflym y mae eu cartrefi’n cynhesu, a bod y canlyniadau wedi bod yn werth chweil. Mae eraill wedi adrodd bod y gwelliannau wedi arbed arian iddynt ac wedi gwneud amgylchedd eu cartref yn oerach yn yr haf ac yn gynhesach yn y gaeaf.

Yn ogystal â’r gwaith yn Park Avenue, rydym hefyd wedi gosod deunydd inswleiddio ar waliau allanol, a phaneli solar a batris storio ynni mewn 8 byngalo yn Garfield Gardens, Arberth ac 8 eiddo yn Prescelli Court, Aberdaugleddau. Bydd y paneli solar yn helpu i leihau biliau trydan y preswylwyr gan y bydd llai yn cael ei dynnu o’r grid tra bydd y deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn sicrhau bod angen llosgi llai o nwy i wresogi’r cartrefi.

Yn y llun uchod:  Garfield Gardens yn ystod y gwaith. Yma gallwch weld y deunydd inswleiddio’n cael ei osod ar waliau allanol yr eiddo.

Wrth i’r rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio barhau, rydym hefyd wedi cwblhau gwaith ar 8 eiddo yn Hook, ger Hwlffordd. Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud i’r cartrefi hyn ac maent wedi bod yn rhan o’r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, a ariannwyd gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r cartrefi hyn, a fu’n defnyddio systemau gwresogi olew yn flaenorol, wedi elwa o waith ailweirio, systemau gwresogi newydd, pympiau gwres o’r aer, paneli solar, batris storio ynni, batris gwres Sunamp a thechnoleg glyfar i reoli systemau gwresogi.

Meddai ein Prif Weithredwr, Nick Hampshire: “Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi’i chyflwyno ledled Sir Benfro ac mae ateb a’n preswylwyr wrth eu bodd gyda’r canlyniadau hyd yn hyn. Wrth i ni symud ymhellach i’r gaeaf ac wrth i’r tywydd oer frathu, rydym yn disgwyl y bydd ein cwsmeriaid nid yn unig yn teimlo budd eu hamodau byw gwell oherwydd y deunydd inswleiddio a osodwyd ar waliau allanol, ond y bydd eu biliau ynni’n is o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol.

“Wrth edrych i’r dyfodol, bydd y mathau hyn o welliannau’n dod yn arferol yn ein stoc o dai wrth i ni gefnu ar systemau gwresogi sy’n defnyddio olew a symud tuag at ddewisiadau amgen mwy gwyrdd a mwy clyfar. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n cwsmeriaid yn y misoedd sydd i ddod wrth i’r rhaglen barhau ledled Sir Benfro. Rydym yn canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a gwella amgylcheddau byw ar gyfer cymunedau ateb.”

Chief Executive touring a house

Yn y llun uchod: Paul Edwards – Rheolwr Cynnal a Chadw a Nick Hampshire – Prif Weithredwr ateb, yn cael taith o amgylch eiddo yn Hwlffordd.

Yn ystod chwarter cyntaf eleni (mis Ionawr i fis Mawrth 2025) byddwn yn gweithio ar 50 eiddo yn Solfach i osod deunydd inswleiddio ar waliau allanol, paneli solar a batris storio ynni.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen dair blynedd a fydd yn sicrhau bod ein stoc o dai’n addas i’r dyfodol ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, drwy warantu sgôr Gweithdrefn Asesu Safonol o 75 neu fwy ym mhob eiddo yr ydym yn ei reoli.

Cyhoeddwyd: 09/01/2025