Mae’n bleser gan ateb gyhoeddi ein bod wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd, sef y cam cyntaf yn y Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Mae’r cynllun yn annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella sut y maent yn recriwtio, yn cadw ac yn datblygu pobl anabl.
Daeth Karen Davies ac Eleanor Brick o Gyngor Sir Penfro (gweler y llun uchod) draw i hyfforddi ein rheolwyr llinell ynghylch beth y mae’r cynllun yn ei olygu ac i esbonio pa gamau y gallant eu cymryd fel rheolwyr i gynorthwyo ymgeiswyr a gweithwyr anabl.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n Cynllun Gweithredu cyffredinol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os ydych yn ymgeisio am swydd gyda ni ac os oes gennych anabledd, rydym yn gwarantu y byddwn yn eich cyfweld os ydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ewch i’n tudalen ar y we ar gyfer swyddi gwag i weld pa swyddi gwag sydd gennym, a dewch i ymuno â ni.