Sut mae bod yn gymydog da

Bod yn llai hunanol er mwyn bod yn fwy cymdogol!

Gallwch atal problemau rhag digwydd gyda’ch cymydog drwy ddilyn ychydig o gyngor syml…

Byddwch yn gymydog da.

Byddwch yn ystyriol gartref wrth chwarae cerddoriaeth neu wrando ar y teledu, drwy gadw’r sŵn yn isel.

Pan fyddwch wedi gwahodd ffrindiau neu’ch teulu draw, yn enwedig yn hwyr gyda’r nos, cofiwch y gallai eich cymdogion fod yn cysgu.

Wrth wneud tasgau yn y tŷ, gwnewch nhw ar adeg resymol o’r dydd, rhowch wybod i’ch cymydog ymlaen llaw a gwnewch gyn lleied o sŵn ag sy’n bosibl.

Gofalwch am eich anifeiliaid anwes. Cadwch eich cŵn dan reolaeth a pheidiwch â gadael iddynt grwydro o amgylch y gymdogaeth.

Diolch am eich cydweithrediad.

Arhoswch gartref, cadwch yn ddiogel!