Services update to ateb when working from home

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn

Mae ein cwsmeriaid, ein tîm a’n partneriaid i gyd yn dal i deimlo effaith yr argyfwng COVID-19 ac mae angen i ni baratoi ar gyfer sut y byddwn yn darparu ein gwasanaethau hyd y gellir rhagweld.

Yn ateb rydym wedi ymrwymo’n llawn i wneud ein gorau glas, yn unol â’r rheoliadau a’r cyngor ynghylch diogelwch a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill ym maes iechyd a diogelwch, i ddarparu cymaint o wasanaethau ag y gallwn a sicrhau hefyd mai diogelwch ein cwsmeriaid, ein timau a’n partneriaid sy’n cael blaenoriaeth bob amser.

Dyma ein blaenoriaethau allweddol ar hyn o bryd:

  • Helpu ein cwsmeriaid i gael y cymorth ariannol y mae arnynt ei angen 
  • Hybu lles ein cwsmeriaid 
  • Cadw cwsmeriaid yn saff ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain 
  • Darparu Cymorth i Reoli Tenantiaethau a Chymunedau 

Wrth i ni geisio dod o hyd i ffyrdd o wneud mwy, rydym wedi darparu diweddariad ynghylch rhai o’n penderfyniadau er mwyn egluro ein camau nesaf yn ystod y misoedd sydd i ddod. Mae’r penderfyniadau hynny wedi’u gwneud er mwyn diogelu pawb a byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

  • Cliciwch yma i ddarllen y llythyr y mae ein cwsmeriaid wedi’i gael.