Byddwn yn recriwtio cyn bo hir!

Cyrhaeddodd ateb garreg filltir bwysig yn ddiweddar, sef ei 3,000fed cartref, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu a thyfu yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Nid ydym wedi newid o safbwynt strwythurol ers sawl blwyddyn, ac rydym wedi cydnabod bod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn meysydd allweddol. Mae hynny’n cynnwys buddsoddi yn ein gwasanaethau ym maes Rheoli Asedau, Cynnal a Chadw a Chydymffurfio er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r lefelau gwasanaeth y mae ein cwsmeriaid yn gofyn amdanynt a sicrhau ein bod yn bodloni rheoliadau sy’n newid, er enghraifft yng nghyswllt datgarboneiddio.

Yn rhan o’r gwaith buddsoddi hwnnw rydym yn creu Tîm Eiddo newydd, ac rydym yn falch o fod wedi penodi Antony James yn Bennaeth Eiddo newydd i ni. Mae Antony wedi bod yn gweithio i ateb ers 12 mlynedd, gan arwain ein Tîm Mewnol o Grefftwyr a’n swyddogaethau Cynnal a Chadw a Chydymffurfio. Cyn ymuno â ni, roedd Antony yn rheoli contractau a thimau a oedd yn darparu ystod o wasanaethau mecanyddol a thrydanol i gleientiaid yn y sector tai cymdeithasol ar draws de Cymru. Bu’n rhedeg ei fusnes ei hun am 10 mlynedd ac mae ganddo gefndir mecanyddol ar ôl bod yn cyflawni amryw swyddi ym maes adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw.

Meddai Antony wrth dderbyn y swydd newydd:

“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i arwain y Tîm Eiddo newydd gydag ateb. Yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw gwych a chadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn eu cartrefi, bydd y Tîm Eiddo newydd yn cyflawni ein strategaeth rheoli asedau yn ystod y blynyddoedd nesaf, a fydd yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol gyffrous i ateb, i’n timau, ein cwsmeriaid a’n busnesau lleol, ac i bobl a chymunedau’r gorllewin”.

Yn rhan o’r gwaith buddsoddi hwn, rydym yn creu sawl swydd newydd ym maes cynnal a chadw adweithiol ac arfaethedig, rheoli asedau, cydymffurfio a goruchwylio’r tîm llafur uniongyrchol. Byddwn yn dechrau recriwtio yn ystod yr ychydig wythnosau a’r ychydig fisoedd nesaf. Felly, os ydych chi neu rywrai yr ydych yn eu hadnabod am ddatblygu gyrfa gyda ni, peidiwch â cholli’r cyfle hwn! Dilynwch ni ar Facebook, Twitter a LinkedIn. 

#eiddo
#niywateb
#cyflawnicanlyniadau

Cyhoeddwyn: 03/09/2021