Cadarnhau bod safle’r Hen Lyfrgell yn Hwlffordd wedi’i brynu.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod safle’r Hen Lyfrgell yn Hwlffordd wedi’i brynu.

Cafodd y tir a’r adeiladau sydd ar safle 3.3 erw, a oedd wedi bod ar y farchnad ers mis Rhagfyr 2018, eu prynu’r wythnos hon.

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i ddatblygu’r safle. Mae’r defnydd y gellid ei wneud ohono’n cynnwys darparu swyddfeydd, mannau cymunedol cydweithredol, caffi cymunedol a datblygiad preswyl er mwyn diwallu anghenion yr ardal leol o ran tai.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp ateb, Nick Hampshire, ei bod yn bwysig i’r sefydliad bod ei bencadlys yn aros yn nhref sirol Sir Benfro.

“Rydym yn falch dros ben mai ni yw ceidwad newydd safle’r Hen Lyfrgell ac rydym yn edrych ymlaen at symud y prosiect adfywio cyffrous hwn yn ei flaen,’’ meddai.

“Os cawn ni ganiatâd cynllunio, mae’r cartrefi newydd yn rhai y mae eu hangen yn fawr ar gyfer yr ardal leol.’’

Argraffiadau cychwynnol arlunydd o’r adeilad ar ei newydd wedd.

Mae’r cam cynllunio’n debygol o gymryd tua 12 mis, a’r gobaith yw y bydd y gwaith ar y prosiect yn dechrau yn 2023.

Hoffai Nick sicrhau’r trigolion sy’n poeni am broblemau parcio y byddwn yn ymgysylltu â’r bobl y mae hynny’n effeithio arnynt, er mwyn dod o hyd i’r ateb gorau.

“Rydym yn ymwybodol o’r problemau parcio ac rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r trigolion a’r cynghorwyr lleol er mwyn ystyried eu pryderon a’u gwrthwynebiadau,’’ ychwanegodd.

Yn y cyfamser, bydd y maes parcio’n aros ar agor a bydd yn cael ei weithredu yn y tymor byr gan Gyngor Sir Penfro.

Rydym yn falch o allu cefnogi cynlluniau ehangach y cyngor sir ar gyfer adfywio canol y dref drwy sicrhau bod pobl newydd yn defnyddio’r rhan hon o’r dref, nad yw’n cael ei defnyddio ddigon.

At hynny mae datblygu eiddo preswyl yng nghanol y dref, y mae ei angen yn fawr, yn bwysig. Wrth ei ddylunio, byddwn yn sicrhau ei fod yn gweddu i bwysigrwydd y lleoliad.

Er mwyn lleihau’r effaith ar y dref ac ar y trigolion lleol, rydym yn bwriadu cyflawni’r gwaith datblygu fesul cam. Bydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei phennu’n nes ymlaen yn y flwyddyn.

Cyhoeddwyd: 05/05/2022