Mae aelodau o dimau Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac ateb yn arwain y gwaith o ddosbarthu Pecynnau Cadw’n Gynnes yn ystod y Gaeaf i aelwydydd ledled Sir Benfro, er mwyn helpu pobl sy’n byw mewn oerfel ac sy’n cael trafferth ymdopi â chostau byw uwch.
Mae’r gwaith o ddosbarthu’r pecynnau cadw’n gynnes yn rhan o’r ymgyrch Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach a gaiff ei arwain gan Hwb Cymunedol Sir Benfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ac amryw asiantaethau sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y gwasanaethau brys a’r sector gwirfoddol.
Mae pob pecyn yn cynnwys amrywiaeth o eitemau i helpu pobl i gadw’n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Gellir atgyfeirio pobl ar gyfer cael pecyn cadw’n gynnes drwy lenwi’r drwy gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro ar 01437 723660 neu drwy ebost [email protected]
Mae croeso i bobl eu hatgyfeirio eu hunain hefyd.
Cyhoeddwyd: 13/01/2023