Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i rym ar 1 Rhagfyr 2022, gan gyflwyno nifer o newidiadau i gwsmeriaid ateb yn ogystal ag i ateb fel landlord.
Un o’r newidiadau mwyaf oedd cyflwyno ‘Contract Meddiannaeth’ newydd y mae’n rhaid i bob landlord ei roi yn lle’r hen ‘Gytundeb Tenantiaeth’.
Os daethoch yn un o gwsmeriaid ateb ar ôl 1 Rhagfyr 2022 byddwch, fel y ‘Deiliad Contract’ yn eich cartref newydd, wedi llofnodi Contract Meddiannaeth newydd gan ateb.
Os oeddech yn gwsmeriaid ac yn ‘denantiaid’ i ateb cyn i’r Ddeddf ddod i rym, byddwch chithau hefyd yn cael contract newydd cyn bo hir, a gaiff ei alw’n ‘Gontract wedi’i Drosi’. Y rheswm am hynny yw bod eich hen Gytundeb Tenantiaeth wedi’i ‘drosi’ yn awtomatig yn Gontract Meddiannaeth newydd ar 1 Rhagfyr 2022.
Y newyddion da yw y byddwch yn cadw pob un o’ch hawliau presennol a oedd wedi’u nodi yn eich hen Gytundeb Tenantiaeth ond y byddwch hefyd yn elwa o hawliau ychwanegol neu ‘well’ a roddir yn y Ddeddf.
Byddwch yn cael eich contract newydd sy’n Gontract wedi’i Drosi yn y post yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, gyda llythyr eglurhaol. Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am eich Contract Meddiannaeth newydd, dylech gysylltu â’ch Cydlynydd Tai a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth ychwanegol a chyngor i chi yn ogystal ag unrhyw gymorth y gallai fod arnoch ei angen.