Dyma Adroddiad Arolwg 2024 ynghylch Gwaith Atgyweirio Adweithiol.
Cafodd yr arolwg ei hun ei gynnal ym mis Gorffennaf a mis Awst, ac mae’r hyn a ddywedodd ein cwsmeriaid wedi’i gofnodi yn yr adroddiad hwn. Gan gydweithio’n agos â thîm atgyweirio ateb a chwsmeriaid sy’n aelodau o’r Grŵp Cynllunio Arolygon, cafodd dadansoddiad o’r canlyniadau ei lunio a chafodd rhestr o welliannau i’r gwasanaeth ei chreu. Mae staff ateb wrthi’n awr yn gweithio ar y rhestr honno, ac mae’r cynnydd a wneir yn cael ei fonitro gan y Grŵp Cynllunio Arolygon.
Y cam nesaf: Adolygiad 6 Mis y Grŵp Cynllunio Arolygon o’r camau gwella ar gyfer Gwaith Atgyweirio Adweithiol – 11/03/2025 am 10:00. Croeso i bawb.
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni