Mae’n ofynnol i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru (cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol) gynnal arolwg wedi’i safoni o fodlonrwydd tenantiaid o leiaf bob 2 flynedd.
Cynhaliodd ateb yr arolwg rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Chwefror 2022, gan anfon yr arolwg at bob cwsmer yr oedd gennym gyfeiriad ebost ar eu cyfer. At hynny, buodd llawer o aelodau tîm ateb yn gofyn y cwestiynau’n uniongyrchol i gwsmeriaid pan fuont yn siarad â nhw, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Cawsom ymateb anhygoel gan 34% i 40% o holl gwsmeriaid ateb (ymatebodd nifer ychydig yn wahanol o gwsmeriaid i bob cwestiwn) a hoffem ddiolch o galon i bob un ohonoch a neilltuodd amser i gymryd rhan yn yr arolwg.
Gallwch ddarllen crynodeb o’r canlyniadau yn Saesneg yma, ac os oedd modd rydym wedi cymharu’r canlyniadau â’r rhai a gawsom yn 2019.
Os yw’n well gennych gael y canlyniadau yn Gymraeg, mae croeso i chi ein ffonio a bydd aelod o’n tîm yn barod i’ch helpu.