Daeth dros 30 o gwsmeriaid i seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Arddio flynyddol ateb yn Kensington Court yr wythnos diwethaf (ddydd Iau 12 Awst).
Roedd yr haul yn gwenu ac roedd yna awel ysgafn wrth i’r cwsmeriaid rannu ambell air o gyngor am arddio, mwynhau te prynhawn a oedd yn edrych yn fendigedig, gwneud ffrindiau newydd, a chwrdd â hen ffrindiau ar ôl misoedd lawer o fethu â gwneud hynny. Cafodd tystysgrifau a thalebau Love2Shop a’r cynllun canolfannau garddio cenedlaethol eu cyflwyno i’r enillwyr diwyd yr oedd eu gwaith wedi’i arddangos er mwyn i bawb ei edmygu.
Enillydd ieuengaf ateb oedd Madeline Massey a gipiodd y wobr ar gyfer yr ardd orau gan berson ifanc ac a ddaeth yn ail hefyd yn y dosbarth ar gyfer y cynnyrch gorau y gellir ei fwyta, gyda’i rhes o goed afalau. Cafodd pawb arall eu llongyfarch hefyd a chydnabuwyd yr ymdrech yr oedd pobl wedi’i gwneud i greu, datblygu a chynnal a chadw eu hardaloedd allanol, sy’n rhywbeth y mae ateb yn ei werthfawrogi.
Os hoffech chi gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Arddio flynyddol ateb yn 2022, dechreuwch arni’n awr – dyw hi byth yn rhy gynnar i chi wneud hynny. Yn ogystal â gwerthfawrogi’r cynnyrch terfynol, mae’r beirniaid hefyd yn cydnabod yr holl waith cynllunio, meddwl a dylunio sy’n ofynnol i greu’r campweithiau hyn.
Enillwyr 2021 1 – Yr ardd orau gan berson ifanc (dan 16 oed) 1af Madeline Massey (240 o bwyntiau) 2 – Yr ardd orau o safbwynt yr amgylchedd / bywyd gwyllt 1af Freddy a Vicky Garton (240 o bwyntiau) 2il Tony Ellyatt (120 o bwyntiau) 3 – Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf 1af Jess Massey (180 o bwyntiau) 2il Netty Jones (80 o bwyntiau) Cydradd 3ydd Freddy a Vicky Garton (30 o bwyntiau) Cydradd 3ydd Declare Court Courtiers (30 o bwyntiau)
4 – Yr ardd unigol orau (unrhyw oedran) 1af Netty Jones (150 o bwyntiau) Cydradd 2il Tony Ellyatt (90 o bwyntiau) Cydradd 2il Karen Sewell (90 o bwyntiau) 3ydd Freddy a Vicky Garton (30 o bwyntiau) 5 – Y cynnyrch gorau y gellir ei fwyta 1af Cymdeithas Denantiaid Hanover Court (Hwlffordd) (240 o bwyntiau) 2il Madeline Massey (120 o bwyntiau) 6 – Y defnydd mwyaf arloesol o LE BACH 1af Dawn Gwilliam (240 o bwyntiau) 2il Ann Evans (60 o bwyntiau) 3ydd Iris a John (50 o bwyntiau) 8 – Yr ardd a rennir/yr ardd gyffredin orau 1af Declare Court Courtiers (180 o bwyntiau) 2il Bunty Irene Barclay a Sue Lane, Acorn Heights (130 o bwyntiau) 3ydd Cymdeithas Denantiaid Hanover Court (Hwlffordd) (80 o bwyntiau) Y beirniaid eleni oedd Bethan Elliott, Julie Edward, Jess James a Tomos Waters. Cyhoeddwyd: 16/08/2021