Homes being built

Cartrefi newydd ar gael yn fuan yn Ninbych-y-pysgod.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd sawl un o’r cartrefi yn ein datblygiad newydd, sef Hafalnod ger Knowling Mead, Dinbych-y-pysgod, yn cael eu hysbysebu ar Cartrefi Dewisedig yn ystod yr wythnosau nesaf.

Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o gymuned Dinbych-y-pysgod y mae arnynt angen cartref, pan fyddai’r cartrefi newydd hyn yn cael eu gosod am y tro cyntaf.

Mae’r cynllun hwn y bwriedir iddo osod tai i bobl leol yn gwireddu’r addewid hwnnw, drwy roi blaenoriaeth i’r sawl sy’n byw yn wardiau etholiadol Gogledd Dinbych-y-pysgod a De Dinbych-y-pysgod.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio gyda’r gymuned leol wrth gynllunio ein datblygiadau, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cartrefi hyn yn cael eu gosod.

I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch ein taflen am Hafalnod. 

Cyhoeddwyd: Dydd Mercher 25 Tachwedd 2020