Cartrefi newydd yn cael eu cynnig ar gyfer Llangwm – byddem wrth ein bodd yn cael eich barn.

Mae ateb yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio i adeiladu 67 o gartrefi newydd ar dir oddi ar The Kilns yn Sir Benfro. 

Bydd y cartrefi newydd yn gymysgedd o dai a fydd yn cynnwys tai pâr, byngalos pâr a byngalos sengl. Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu ar ffurf cyfres o ffyrdd pengaead sy’n dilyn amlinellau llyfn y safle.  

Bydd y cartrefi hyn, y mae angen mawr amdanynt, yn darparu ar gyfer amrywiaeth o gwsmeriaid. Byddant yn cynnwys eiddo ar gyfer pobl sydd ar y gofrestr tai cymdeithasol (Cartrefi Dewisedig), eiddo ar gyfer pobl nad ydynt yn gymwys i gael tai cymdeithasol, ac eiddo rhentu i berchnogi ar gyfer pobl a allai ei chael yn anodd prynu eu cartref cyntaf fel arall. 

Gellir gweld y cynlluniau: 

  • Ar-lein ar wefan Evan Banks Planning yma, neu 
  • Yn bersonol yn Llyfrgell Fenthyca Hwlffordd, Hen Farchnad Glan-yr-afon, oddi ar Swan Square, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2AN.  

Gallwch gyflwyno eich adborth drwy:  

  • Anfon ebost i [email protected]   
  • Ysgrifennu at Evans Banks Planning Ltd, 2 Llandeilo Road, Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, SA14 6NA. 

Dylai unrhyw sylwadau ac ymatebion ddod i law erbyn dydd Llun 19 Chwefror 2024 fan bellaf.  

Byddwn hefyd yn cynnal noson rhannu gwybodaeth â’r gymuned: 

  • Nos Iau 8 Chwefror 2024 
  • O 6.30pm ymlaen 
  • Yn Neuadd Bentref Llangwm. 

Bydd cyflwyniad byr yn cael ei roi ar y cynlluniau a bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.