Cartrefi newydd yn Hafalnod yn mwynhau noson o hwyl i’r gymuned!

Ddoe gwnaethom gynnal diwrnod o hwyl i’r gymuned / digwyddiad dod i adnabod eich cymdogion ar ein hystâd newydd, Hafalnod, yn Ninbych-y-pysgod.

Daeth dros 40 o gwsmeriaid a sefydliadau partner ynghyd ar noson braf i gael ychydig o hwyl, rhannu gwybodaeth a hyd yn oed dysgu pethau newydd. Roedd y bwffe yn flasus iawn hefyd!

Mae digwyddiadau tebyg i’r rhain yn helpu ein cwsmeriaid i ddod i adnabod eu cymdogion a chreu cymunedau cryfach.

Os hoffech chi ofyn am ddiwrnod o hwyl ar gyfer eich cymuned ateb, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Datblygu Cymunedol [email protected]

Does dim dyddiad ar ôl ar gyfer 2022 ond dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am 2023.

Dyma’r darparwyr a oedd yn bresennol: Gweithffyrdd – cymorth o ran gyrfa, Pembrokeshire Sport, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, Cynghorwyr eraill, PLANED, Sgiliau Byw yn y Gwyllt gyda Coed Lleol, a thrawstoriad gwych o staff ateb a oedd yno i gwrdd â chwsmeriaid a’u cynorthwyo.

Cyhoeddwyd: 25/07/2022