Category Archives: Uncategorized @cy

Arweiniad ynghylch trefnu Parti Stryd ar gyfer y Jiwbilî

Ym mis Mehefin eleni, Ei Mawrhydi’r Frenhines fydd y gyntaf o holl Frenhinoedd a Breninesau Prydain i ddathlu Jiwbilî Blatinwm ar ôl 70 mlynedd o wasanaeth. I ddathlu hynny, mae cymunedau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau yn ystod penwythnos hirach nag arfer a fydd yn ŵyl banc arbennig, o ddydd Iau 2 […]

Yw ateb yn gwrando arnoch?

Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud….. Peidiwch â chael eich gadael ar ôl…. Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn casglu eich barn ynghylch a ydych yn teimlo ein bod wedi gwrando arnoch ac wedi gweithredu yn sgil yr hyn y gwnaethoch ei ddweud. Drwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i […]

Cadarnhau bod safle’r Hen Lyfrgell yn Hwlffordd wedi’i brynu.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod safle’r Hen Lyfrgell yn Hwlffordd wedi’i brynu. Cafodd y tir a’r adeiladau sydd ar safle 3.3 erw, a oedd wedi bod ar y farchnad ers mis Rhagfyr 2018, eu prynu’r wythnos hon. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i ddatblygu’r safle. Mae’r defnydd y […]

ateb yn gwireddu ei addewid i osod cartrefi i bobl leol yn Nhyddewi

Heddiw gwnaethom groesawu ein cwsmeriaid cyntaf i’w cartrefi newydd yn Nhyddewi. Mae Sŵn y Môr yn cynnwys 38 o gartrefi newydd fforddiadwy i’w rhentu. Mae’r datblygiad wedi’i enwi ar ôl un o gychod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, a oedd yn arfer bod yn y ddinas (o 1936 tan 1963) ac a achubodd 108 […]

Dylai pawb wneud hyn ar 31 Mawrth i arbed arian.

Bydd prisiau ynni’n codi ar 1 Ebrill OND mae yna rywbeth y gallwch ei wneud i helpu. Gwnewch gofnod o ddarlleniadau eich mesuryddion nwy a thrydan ddydd Iau 31 Mawrth, neu mor agos i’r diwrnod hwnnw ag sy’n bosibl. Does dim gwahaniaeth pa fath o fesurydd sydd gennych; dylech wneud hynny p’un a oes gennych […]

Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid 2022

Ydy – mae yn ei ôl: Y Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid! Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn 3 lleoliad ar wahân. Felly, byddwch yn awr yn gallu mwynhau pob un o’r elfennau gwreiddiol yn un o’r digwyddiadau hyn, a fydd yn llai o faint: Pryd o fwyd blasus a lluniaeth arall Cyfle i […]

Cystadleuaeth Arddio ateb 2022

Dyma hi! Ein cystadleuaeth arddio 2022 Dosbarthiadau 1              Yr Ardd Orau gan Berson Ifanc (dan 16 oed) 2              Yr Ardd Orau o Safbwynt yr Amgylchedd / Bywyd Gwyllt (a yw eich gardd yn helpu’r amgylchedd mewn rhyw fodd? E.e. ydych chi’n defnyddio casgenni dŵr / ydy’r ardd yn denu llawer o wenyn neu ieir bach […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 28 Ebrill am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn […]

Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth, 14 Mehefin, am 10:00 a bydd yn para tua awr. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni drwy Teams, os hoffech gael help, hyd yn oed os nad oes gennych offer. Mae’r grwpiau hyn yn agored i bob aelod o staff a phob un o […]

Croeso i’n Pennaeth Cwsmeriaid newydd!

Heddiw rydym yn dathlu dau beth… Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb a llongyfarchiadau i David Tovey – ein Pennaeth Cwsmeriaid newydd. Bydd David yn wyneb cyfarwydd i’n cwsmeriaid, oherwydd mae wedi bod yn Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid i ni ers 2019. Meddai David: “Rwy’n edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd a fydd yn dod […]