Category Archives: Uncategorized @cy

Storm Eunice – diweddariad am 11:25am (ddydd Gwener 18 Chwefror 2022)

Oherwydd y tywydd heriol sy’n parhau ar draws Sir Benfro, rydym wedi penderfynu parhau i gyflawni gwaith atgyweirio brys yn unig y prynhawn yma. Bydd ein canolfan gyswllt mewn cysylltiad â chi i aildrefnu apwyntiadau cyn gynted ag sy’n bosibl. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn cynghori […]

Storm Eunice – Gwybodaeth bwysig am wasanaethau ateb

Mae disgwyl i Storm Eunice daro Sir Benfro yn ystod oriau mân bore dydd Gwener (o 1am ymlaen) ac mae rhybudd oren wedi’i gyhoeddi ar gyfer y rhan fwyaf o’r dydd. Mae rhybudd coch (sy’n golygu ‘perygl i fywyd’) wedi’i gyhoeddi ar gyfer yr ardal rhwng Abertawe a Chas-gwent ac mae’n bosibl y gallai’r rhybudd […]

DIWEDDARIAD: Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB Cawsom wybodaeth gan 1035 o’n cwsmeriaid. Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan ym mis Ebrill 2022, ar dudalen e2i. Byddwn yn cysylltu â’r enillydd y gystadleuaeth yn ystod wythnos 07/03/22.   Yr Arolwg Seren Bob yn ail […]

Taliadau rhent blynyddol ateb: Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud…

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd ateb yn dechrau ystyried ei daliadau rhent blynyddol gyda’r bwriad o godi’r rhent ym mis Ebrill 2022. Bydd ein cwsmeriaid yn gwybod bod ateb wedi mabwysiadu’r fethodoleg Rhent Byw er mwyn sicrhau bod ein rhenti’n fforddiadwy. Mae Rhent Byw yn sefydlu cysylltiad rhwng rhenti a gallu cwsmeriaid i’w talu. […]

Swyddog Ynni Cartref newydd yn helpu cwsmeriaid i Arbed Ynni ac Arbed Arian!

Mae’n bleser gan ateb groesawu ein Swyddog Ynni Cartref newydd i’r tîm, a fydd yn helpu ein cwsmeriaid i Arbed Ynni ac Arbed Arian. Bydd y prosiect ‘Arbed Ynni, Arbed Arian’ yn cynorthwyo ein cwsmeriaid i ddeall yn well sut y maent yn defnyddio ynni a faint y mae’n ei gostio iddynt, ac adnabod ffyrdd […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 24 Chwefror am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er […]

Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth, 8 Mawrth, am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r Arolwg Seren a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Ardaloedd Awyr Agored, a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Mai a Mehefin. Byddwn hefyd yn […]

Sgamiau newydd sy’n targedu cwsmeriaid hŷn

Mae ein timau’n cwrdd yn rheolaidd â’r heddlu, ac yn ein cyfarfod diweddaraf (ar 15/12/21) gofynnwyd i ni rannu manylion am ddau sgam sy’n boblogaidd ymhlith troseddwyr sy’n targedu pobl hŷn ar draws Sir Benfro a’r gorllewin. Sgam dosbarthu parsel – caiff cwsmeriaid alwad ffôn a chânt wybod bod yn rhaid iddynt dalu er mwyn […]