Taliadau rhent blynyddol ateb: Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud…
Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd ateb yn dechrau ystyried ei daliadau rhent blynyddol gyda’r bwriad o godi’r rhent ym mis Ebrill 2022. Bydd ein cwsmeriaid yn gwybod bod ateb wedi mabwysiadu’r fethodoleg Rhent Byw er mwyn sicrhau bod ein rhenti’n fforddiadwy. Mae Rhent Byw yn sefydlu cysylltiad rhwng rhenti a gallu cwsmeriaid i’w talu. […]