Category Archives: Uncategorized @cy

Llongyfarchiadau i Linzi – ein Seren Newydd!

Llongyfarchiadau mawr i Linzi, ein Cydlynydd Cynnal a Chadw a Chydymffurfio, sydd wedi ennill y Wobr i Seren Newydd yng Ngwobrau Diogelwch a Chydymffurfio y Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol ym maes Diogelwch a Chydymffurfio (ASCP) eleni. Mae sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid yn un o’n prif flaenoriaethau, ac mae Linzi wedi cael ei chydnabod am ei gwaith […]

Canlyniadau’r Arolwg #27 Disgwyliadau o ran Cymorth Ymarferol

Cawsom dros 305 o ymatebion, a gall e2i yn awr rannu’r cyfraniad a wnaethoch chi i’n holiadur, Disgwyliadau o ran Cymorth Ymarferol, fydd yn ein helpu i ganolbwyntio ar welliannau i wasanaethau, a ddylai gael blaenoriaeth, ac a fydd yn golygu bod eich safbwyntiau’n ganolog i’r penderfyniadau hynny – dyma’r canlyniadau Os yw’n bwysig i […]

ateb yn gosod 5 diffibriliwr arall

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod, mewn cydweithrediad ag Elusen Calon Cymru, wedi gosod 5 diffibriliwr awtomatig arall yn ein cynlluniau Byw’n Annibynnol yn DeClare Court a Hanover Court yn Hwlffordd; Kensington Court a Hanover Court yn Aberdaugleddau; a Williams Court yn Arberth. Bydd y diffibrilwyr ar gael i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol. Gyda […]

Nawr Yw’r Amser – Tai Pawb

Mae’n bleser gan Tai Pawb gyhoeddi fod ein cynhadledd flynyddoedd yn dychwelyd – ar-lein ­– ddydd Mawrth 5 a dydd Mercher 6 Hydref 2021. Bydd NAWR YW’R AMSER yn cynnwys amrywiaeth gyffrous o siaradwyr arbenigol, uchel eu proffil, gyda chyfoeth o brofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Fel ein cynadleddau blaenorol, rydym yn sicr y bydd […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 28 Hydref am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er […]

Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth 12 Hydref am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r arolwg, Ymgysylltu â Chwsmeriaid, a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Arolwg Seren, a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr. Byddwn […]

Byddwn yn recriwtio cyn bo hir!

Cyrhaeddodd ateb garreg filltir bwysig yn ddiweddar, sef ei 3,000fed cartref, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu a thyfu yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Nid ydym wedi newid o safbwynt strwythurol ers sawl blwyddyn, ac rydym wedi cydnabod bod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn meysydd allweddol. Mae hynny’n cynnwys buddsoddi yn […]

Myfyrio ynghylch 2020 – Adeiladu tai fforddiadwy newydd yn ein cymunedau

29 o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio rhoddion cymorth a ailgylchwyd o Mill Bay Homes Cynllun 3 blynedd i ehangu ein rhaglen ddatblygu 112 o gartrefi newydd wedi’u cwblhau yn ystod blwyddyn ariannol 20/21 Roedd yr achlysur braidd yn wahanol i’r parti yr oeddem yn meddwl y byddem yn ei gael ym mis Mawrth […]

ateb wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr gan yr ASCP

Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy o Wobrau Diogelwch a Chydymffurfio 2021 y Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol ym maes Diogelwch a Chydymffurfio (ASCP). Mae Linzi Laugharne, Cydlynydd Cynnal a Chadw a Chydymffurfio, wedi cael ei henwebu ar gyfer y Wobr i Seren Newydd, sy’n cydnabod aelodau o dimau […]

Mae eich Credyd Cynhwysol yn newid

Diweddariad Pwysig Ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r pandemig Covid-19, ychwanegodd Llywodraeth y DU £20 yr wythnos at daliadau Credyd Cynhwysol. Roedd hynny’n golygu £86.67 y mis yn ychwanegol i bron 600 o gwsmeriaid ateb a oedd yn cael Credyd Cynhwysol. Mae’r nifer honno wedi cynyddu 55% drwy gydol y pandemig, i dros 900, sy’n […]