Category Archives: Uncategorized @cy

Neges diwedd blwyddyn 2020 gan dîm ateb

Wrth i ni nesáu at wyliau’r Nadolig a diwedd 2020, mae’n anochel y byddwn yn myfyrio ynghylch sut y mae’r pandemig wedi effeithio ar ein ffordd o fyw. Ers mis Mawrth mae ein cwsmeriaid, ein timau a’n partneriaid i gyd wedi gorfod addasu i fywyd yng nghysgod Covid-19, a oedd yn golygu llawer o gyfaddawdu […]

Cartrefi newydd yn Aberllydan, ar gael yn awr ar Cartrefi Dewisedig.

  Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod dau o’n cartrefi yn ein datblygiad newydd yn Sandyke Road, Aberllydan ar gael yn awr ar Cartrefi Dewisedig. Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o gymuned Aberllydan y mae arnynt angen cartref, pan fyddai’r cartrefi newydd hyn yn cael eu […]

Amserau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Ni fydd ein timau a’n canolfan gyswllt ar gael o 12pm ddydd Iau 24 Rhagfyr tan 9.30am ddydd Llun 4 Ionawr 2021. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd ein llinellau ffôn yn cysylltu â darparwr gwasanaethau y tu allan i oriau gwaith arferol, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau yn unig. Dylech wirio beth […]

Grŵp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth 12 Ionawr am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r arolwg, Cwsmeriaid Agored i Niwed a’r Pandemig, a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Yr Angen am Gymorth Ymarferol, a fydd yn rhedeg […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 28 Ionawr am 10:00. Mae’r fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau i chi. Er […]

Lansio cyfeiriadur newydd ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth annibynnol bychain

Mae prosiect Catalyddion Gofal, a gefnogir gan CGGSB, PLANED a Chyngor Sir Penfro, wedi lansio cyfeiriadur newydd sy’n arddangos amrediad gynyddol o ddarparwyr gwasanaethau gofal a chymorth annibynnol bychain yn Sir Benfro. Nod y fenter gyffrous hon yw cynnig dewis gwell o wasanaethau lleol a phersonoledig i bobl y mae angen ychydig help arnynt i […]

Y diweddaraf am welliannau arfaethedig

Yn ôl ym mis Mawrth, gwnaethom ohirio’r holl welliannau arfaethedig y tu mewn i gartrefi pobl ac addo adolygu ein sefyllfa bob hyn a hyn. Yn anffodus nid yw’r risg i staff, cwsmeriaid a chontractwyr wedi newid ac rydym yn pryderu’n arbennig am y risgiau mewn sefyllfaoedd lle gall gwelliannau arfaethedig mewnol gymryd mwy na […]

Cartrefi newydd ar gael yn fuan yn Ninbych-y-pysgod.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd sawl un o’r cartrefi yn ein datblygiad newydd, sef Hafalnod ger Knowling Mead, Dinbych-y-pysgod, yn cael eu hysbysebu ar Cartrefi Dewisedig yn ystod yr wythnosau nesaf. Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o gymuned Dinbych-y-pysgod y mae arnynt angen cartref, pan […]

Sut brofiad ydyw i chi: Cwsmeriaid Agored i Niwed a’r Pandemig

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill talebau Love2Shop gwerth £100 ar ddiwedd y gweithgaredd hwn Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd ateb yn gofyn i chi fynegi eich barn am ein gwasanaethau yn ystod y Pandemig. Dyma eich cyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo. Cliciwch yma i gymryd rhan Drwy gymryd rhan yn […]