Category Archives: Uncategorized @cy

Fforwm Cwsmeriaid e2i

Mae e2i bellach yn cynnal ei sesiynau Fforwm Cwsmeriaid unwaith eto, ond bydd hynny’n digwydd arlein yn awr ar blatfform o’r enw Teams. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar, gofynnwch. Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 24 Medi am 10:30. Mae’r fforwm hwn yn […]

Y diweddaraf am eich gwasanaeth atgyweirio – Tachwedd

Diweddarwyd ddiwethaf ar 09/08/2021 Mae ein gwasanaeth atgyweirio’n gweithredu yn ôl yr arfer. Gallai fod rhywfaint o oedi wrth i ni glirio’r ceisiadau blaenorol sydd wedi ôl-gronni am waith nad yw’n waith brys, sydd ar ei hôl hi oherwydd COVID-19. Diweddarwyd ddiwethaf ar 05/07/2021 Rydym wedi ailddechrau cyflawni gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys. Gallai fod […]

Diweddariad ar y wefan

Rydym wedi bod wrthi’n brysur yn diweddaru ein gwefan er mwyn sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o’r cynnwys ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wedi bod yn brosiect enfawr a hoffem ddiolch i Sian a Heledd yn Cyfiaith, a gyflawnodd y gwaith cyfieithu ar ein rhan, a’r tîm yn Bright Collie, yn […]

Danteithion i ddweud diolch!

Cafodd cwsmeriaid yn ein cynlluniau tai gwarchod a’n cynlluniau gofal ychwanegol rodd annisgwyl yr wythnos hon pan fuodd Rheolwyr Cynllun, Cydlynwyr Cynllun a gwirfoddolwyr o Dîm Lles ateb yn dosbarthu 246 o focseidiau o ddanteithion i’w mwynhau. Rydym bob amser yn sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn, ond rydym wedi gorfod […]

Sesiwn Grŵp Cydlynu E2i

Mae E2i mewn sefyllfa erbyn hyn i ailddechrau ei sesiynau grwpiau cwsmeriaid, ond bydd hynny’n digwydd ar-lein yn awr ar blatfform o’r enw Teams. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni trwy Teams. Cofiwch holi, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar.   Caiff sesiwn nesaf y Grŵp Cydlynu ei chynnal ddydd Mawrth 15 Medi am 10:00 a bydd yn para tua awr.   Yn ystod yr hanner […]

Archwiliadau diogelwch nwy – COVID-19

Fel landlord mae dyletswydd gyfreithiol ar ateb i atgyweirio a chynnal a chadw pibellau nwy, ffliwiau ac offer fel eu bod mewn cyflwr diogel, sicrhau bod archwiliad diogelwch nwy blynyddol yn cael ei gynnal ar bob offeryn a ffliw, a chadw cofnod o bob archwiliad diogelwch. Nid yw’r gofynion hyn wedi dod i ben o […]

Bod yn llai hunanol er mwyn bod yn fwy cymdogol!

Gallwch atal problemau rhag digwydd gyda’ch cymydog drwy ddilyn ychydig o gyngor syml… Byddwch yn gymydog da. Byddwch yn ystyriol gartref wrth chwarae cerddoriaeth neu wrando ar y teledu, drwy gadw’r sŵn yn isel. Pan fyddwch wedi gwahodd ffrindiau neu’ch teulu draw, yn enwedig yn hwyr gyda’r nos, cofiwch y gallai eich cymdogion fod yn […]

Gwell rhoi sbwriel yn y bin na’i roi ar dân!

Meddyliwch ddwywaith cyn llosgi unrhyw beth. Dylech ailgylchu eich sbwriel neu’i waredu mewn modd cyfrifol – peidiwch â llosgi unrhyw sbwriel gartref. Gallai gwneud hynny fod yn beryglus ac yn anghyfreithlon ac achosi llygredd. Dyma ambell gyngor da… 1. Os oes gennych ormod o sbwriel, neu os yw’n rhy fawr i’ch bin, cliciwch ar y […]

Mae ein hardaloedd chwarae ar agor yn awr!

Rydym am i chi fwynhau chwarae ond am i chi gadw’n ddiogel hefyd! Sicrhewch eich bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru bob amser. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Cofiwch gadw’n ddigon pell oddi wrth bobl eraill gan aros 2 fetr ar wahân bob amser, a chofiwch olchi eich dwylo’n rheolaidd neu ddefnyddio hylif […]

Cystadleuaeth Arddio 2020 ateb – y buddugwyr!

Mae tîm e2i yn falch iawn o allu cyhoeddi enwau buddugwyr Cystadleuaeth Arddio 2020 ateb. Mae’r marciau i gyd allan o 40. Roedd gennym bedwar o feirniaid sydd i gyd yn aelodau o staff ateb: Ania Eva, Christine Whelton, Julie Edwards a Ruth Preece. Gwelsom enghreifftiau gwych o bobl yn ailgylchu, uwchgylchu ac arloesi, ac rydym […]