Category Archives: Uncategorized @cy

Ydych chi wedi darllen ein diweddariad chwarterol newydd – “ateb Stories”?

Bob chwarter, rydym ni a chymdeithasau tai eraill yn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i ddangos sut y mae ein perfformiad ni’n cymharu ag eraill. Pan gaiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi, byddwn yn ei rhannu â chi ac yn myfyrio ynghylch beth y mae’n ei olygu. Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau a straeon gan […]

Datganiad ynghylch y terfysgoedd hiliol ac Islamoffobig ar draws y DU.

Yn ateb, rydym yn gofidio’n enbyd am y cynnydd diweddar mewn hiliaeth ac Islamoffobia ar draws y DU.   Yn ogystal â bod yn ymosodiadau ar unigolion ar sail eu hil, eu hethnigrwydd neu’u ffydd, mae’r gweithredoedd atgas hyn yn ymosodiadau hefyd ar y ddynoliaeth yr ydym yn ei rhannu ac ar y gwerthoedd sy’n annwyl […]

ateb yn cynnal diwrnod cymunedol o hwyl yn Steynton

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd ateb ddiwrnod cymunedol o hwyl yn Plas Peregrine, Pen Puffin a Stryd Shearwater yn Steynton, Sir Benfro, a oedd yn ddiwrnod diddorol a bywiog. Llwyddodd y digwyddiad hwn a oedd yn rhan o’r fenter gymunedol “Ymgysylltu i Wella” i ddenu dros 60 o gwsmeriaid ateb, yn ogystal ag amryw aelodau o […]

Digwyddiad Cymunedol

PRINCESS ROYAL WAY Dydd Iau 22 Awst 12yh – 3yh RHAID BOD POB PLENTYN SYDD DAN 14 OED YNG NGHWMNI OEDOLYN Ymunwch ag eich cymdogion ag ateb i fwynhau bwyd blasus gan Pembrokeshire Woodfired Pizzas a chael cyfle i sgwrsio â staff ateb, asiantaethau cymorth a phobl eraill yn eich cymuned: Castell bownsio Cyngor am […]

Gwaith yn dechrau ar 11 o gartrefi newydd ateb yn Jameston

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gwaith adeiladu wedi dechrau ar 11 o gartrefi newydd, fforddiadwy i’w rhentu, ym mhentref hardd Jameston, Dinbych-y-pysgod. Mae’r cartrefi’n cael eu codi ar ran ateb gan Sterling UK Construction Ltd, a disgwylir y byddant yn barod ar gyfer cofrestr tai’r ardal leol ymhen tua 12 mis. Mae Sterling Construction wedi […]

Sut y mae ateb yn cymharu â chymdeithasau tai eraill?

Yng Nghymru mae pob landlord cymdeithasol, gan gynnwys cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, yn cynnal arolwg wedi’i safoni o fodlonrwydd tenantiaid, a elwir yn arolwg STAR. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, sy’n ei gwneud yn bosibl i denantiaid graffu ar berfformiad gwahanol landlordiaid a’i gymharu. Gwnaethom gynnal ein harolwg ni o […]

Dyma gyfle i gael cipolwg ar rai o’r gerddi yn ein cystadleuaeth arddio.

Mae ein cystadleuaeth arddio flynyddol yn agored ac mae’r ceisiadau wrthi’n cael eu beirniadu’n barod. Heddiw bu Tom ac Ali yn ymweld â gerddi yn Nhyddewi a Solfach. Rydym yn gobeithio eich bod yn cytuno eu bod yn hardd dros ben. Mae yna amrywiaeth o ddosbarthiadau i chi gymryd rhan ynddynt, felly mae yna rywbeth […]

Arolwg Gwaith Atgyweirio Adweithiol 2024

Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed yma a chymerwch ran yn ein cystadleuaeth i ennill gwobr gwerth £100 Dros yr ychydig fisoedd nesaf rydym yn casglu eich meddyliau a’ch safbwyntiau ynglŷn â sut yr ydych yn teimlo am wasanaeth Atgyweirio Adweithiol ateb. Drwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i weld a […]

Cwblhau ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gyntaf yn Sir Benfro

Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cwblhau’n llwyddiannus ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio gyntaf yng Nghilgeti, Sir Benfro. Mae dros 80 o breswylwyr yn ein datblygiad yn Park Avenue wedi gweld gwelliannau sylweddol i gynaliadwyedd eu cartrefi, diolch i ymdrechion ein tîm ymroddgar. Y garreg filltir hon yw dechrau rhaglen dair blynedd […]