Padlock to demonstrate locked account

Cau gwasanaeth ‘Fy Nghyfrif’ ateb dros dro

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod wrthi’n brysur yn gwella ein gwasanaethau a’n systemau er mwyn darparu gwasanaeth gwell i chi, ein cwsmeriaid. Mae hynny’n cynnwys datblygu system gyfrifiadurol newydd sbon a fydd yn gwella lefelau ein gwasanaeth i gwsmeriaid, yn ogystal â hafan ar-lein newydd lle gallwch wirio eich cyfriflenni rhent, rhoi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio, a thalu eich rhent. Oherwydd y gwaith uwchraddio hwn, bydd angen i ni gau’r gwasanaeth ‘Fy Nghyfrif’ presennol am ychydig tra byddwn yn gwneud y newidiadau pwysig hyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl y bydd ‘Fy Nghyfrif’ yn cael ei dynnu oddi ar y we erbyn diwedd mis Mai.

Gallwch barhau i gysylltu â ni yn ôl yr arfer drwy anfon ebost i [email protected] neu ffonio 01437 763688.

Beth y dylwn ei wneud os ydw i fel rheol yn talu fy rhent ar y wefan ‘Fy Nghyfrif’?

Mae gennym nifer o ffyrdd y gallwch dalu eich rhent, ac mae ein tîm gwasanaethau i gwsmeriaid wrth law i gynnig cyngor a help os oes arnoch eu hangen.

Debyd Uniongyrchol

Dyma’r ffordd hawsaf o dalu a’r ffordd sy’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf i chi. Gallwn drefnu Debyd Uniongyrchol ar gyfer unrhyw ddiwrnod o’ch dewis.

I drefnu Debyd Uniongyrchol, dylech lenwi ein Ffurflen Debyd Uniongyrchol a’n Ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol a’u hanfon yn ôl i [email protected]

Ond os yw’n well gennych wneud y taliad eich hun bob mis, gallwch bob amser fynd i wefan allpay yma neu lawrlwytho ap allPay o siop apiau Apple neu Google Play. Bydd angen eich cyfeirnod talu 19 rhif arnoch i wneud y taliadau eich hun fel hyn – rhowch ganiad i ni os nad yw’r cyfeirnod gennych.

Mae’r holl wahanol ffyrdd y gallwch dalu eich rhent i’w gweld ar y dudalen ‘Ffyrdd o dalu eich rhent’ ar ein gwefan.

Cyhoeddwyd: 14/05/2021