Mae Ymddiriedolaeth ateb wedi agor ei rownd gyllido gyntaf a bydd modd cyflwyno ceisiadau tan ganol nos, nos Wener 31 Ionawr 2025.
Ymddiriedolaeth ateb yw ein menter rhoi grantiau gwerth hyd at £1500, y bwriedir iddi roi cyllid i syniadau a phrosiectau sy’n grymuso cymunedau ac yn gwella bywydau yn yr ardaloedd y mae ateb yn eu gwasanaethu. Caiff grwpiau cymunedol, cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr, ac unrhyw sefydliadau neu fudiadau eraill sy’n cynorthwyo ein cwsmeriaid eu gwahodd i wneud cais am gyllid i wneud gwahaniaeth.
Nod Ymddiriedolaeth ateb yw ariannu amrywiaeth o atebion i helpu a chynorthwyo pobl a chymunedau ateb drwy:
- Gynorthwyo cymunedau i feithrin capasiti a bod yn hunangynhaliol.
- Adfywio cymunedau drwy raglenni cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a rhaglenni iechyd a lles.
- Helpu pobl hŷn ac agored i niwed i barhau i fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau pan fydd eu ffordd o fyw’n newid.
Cymerwch eiliad i fwrw golwg ar dudalen newydd Ymddiriedolaeth ateb ar y we yma er mwyn dysgu mwy am beth y mae Ymddiriedolaeth ateb yn ei olygu a sut y bydd yn gweithio.
Ewch ati i wneud cais a dechrau creu eich atebion gwell eich hunain o ran byw!
Cyhoeddwyd: 08/01/25