Newidiadau i wladolion yr UE sy’n byw yn y DU ar ôl i Brexit ddigwydd ar 1 Ionawr 2021.

 

Os ydych yn un o wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir a’ch bod am barhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021, dylech wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’n broses hawdd a gellir ei chwblhau ar-lein yma.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.

Byddwch yn gallu:

  • gweithio yn y DU
  • defnyddio’r GIG am ddim, os gallwch wneud hynny ar hyn o bryd
  • cofrestru i gael addysg neu astudio yn y DU
  • cael arian cyhoeddus megis budd-daliadau a phensiynau, os ydych yn gymwys i’w cael
  • teithio i mewn ac allan o’r DU.

Mae llawer o wybodaeth amrywiol ar gael am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac rydym yn argymell eich bod yn mynd i wefan gov.uk i gael gwybod mwy.

Os ydych yn pryderu neu’n ei chael yn anodd deall, mae croeso i chi gysylltu â’n Tîm Atebion Ariannol drwy anfon ebost i [email protected] neu ffonio 01437 763688.

Fel arall, gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol Cyngor ar Bopeth.

Cyhoeddwyd: 13.01.2021

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →