Croeso i’n Pennaeth Cwsmeriaid newydd!

Heddiw rydym yn dathlu dau beth… Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb a llongyfarchiadau i David Tovey – ein Pennaeth Cwsmeriaid newydd.

Bydd David yn wyneb cyfarwydd i’n cwsmeriaid, oherwydd mae wedi bod yn Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid i ni ers 2019.

Meddai David: “Rwy’n edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd a fydd yn dod yn sgil y swydd newydd a chyffrous hon ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gallwn sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir gennym i’n cwsmeriaid yn well fyth.”

Mae gan David dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector tai. Dechreuodd ar ei yrfa fel Hyfforddai ym maes Tai gyda Chyngor Bwrdeistref Llanelli yn ôl yn 1988. Aeth yn ei flaen wedyn i weithio mewn amrywiaeth o swyddi gyda gwahanol ddarparwyr tai a chymorth, yng Nghymru a Lloegr.

Dyma enghraifft arall o ateb yn buddsoddi yn ein timau er mwyn i ni allu parhau i ddarparu atebion gwell o ran byw i’n cwsmeriaid.

Llongyfarchiadau, David.

Cyhpeddwyd: 01/03/2022