Cwestiynau Cyffredin am Recriwtio – Ymgeisio am swyddi yn ateb
Ble’r ydych yn hysbysebu eich swyddi?
Rydym yn hysbysebu swyddi ar ein gwefan, Indeed.com, Facebook, LinkedIn, Gyrfa Cymru, Inside Housing, Housing Jobs Wales, Cartrefi Cymunedol Cymru a Charity PathFinders. Weithiau byddwn yn hysbysebu mewn mannau eraill, ond os ydych yn ein dilyn ar Facebook a LinkedIn byddwch yn gwybod pryd y byddwn yn recriwtio.
A allaf anfon CV?
Gallwch, ond dim ond ar gyfer swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu, lle gallwch glymu eich CV wrth eich cais. Bydd teilwra eich CV i’r proffil rôl yn gwella eich siawns o gyrraedd y rhestr fer. Yn anffodus, nid oes gennym gyfleuster lle gallwch gofrestru i gael hysbysiadau am swyddi gwag neu lle gallwch anfon eich CV rhag ofn ein bod yn recriwtio.
Sut mae ymgeisio am swydd wag?
Ewch i’r dudalen swyddi gwag, lle cewch eich cyfeirio at ein system ymgeisio ar-lein.
Mae gan bob swydd becyn recriwtio sy’n cynnwys manylion am y swydd, y Grŵp, buddion, a’r proffil rôl.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i lunio cais. Ceisiwch ei deilwra drwy rannu gwybodaeth am eich profiadau personol/profiadau gwaith, y diddordebau sy’n eich cymell, a sut yr ydych yn bodloni meini prawf y swydd.
Ble y gallaf gael gwybod mwy am y swydd?
Darllenwch ein pecyn recriwtio a’r proffil rôl ar y wefan i gael gwybodaeth gynhwysfawr am y Grŵp, y swydd a’r telerau.
Sicrhewch fod eich CV wedi’i ddiweddaru a’i fod yn berthnasol.
Cadwch eich CV yn gryno a chofiwch ei deilwra i’r swydd ac osgoi jargon (ni ddylai eich CV fod yn fwy na dwy ochr i dudalen A4).
Lawrlwythwch y pecyn recriwtio a’r proffil rôl er mwyn cyfeirio atynt yn eich cais.
Oes gennych ambell gyngor i sicrhau llwyddiant?
Cymerwch eich amser.
Ceisiwch baru eich sgiliau â’r proffil rôl a sôn am eich profiadau.
Tynnwch sylw at eich llwyddiannau – byddwn yn awyddus i wybod amdanynt.
Cofiwch deilwra eich cais a’ch CV.
Siaradwch iaith Grŵp ateb.
Gwerthwch eich hun yn effeithiol.
Sicrhewch fod y wybodaeth yn berthnasol a’ch bod wedi prawf-ddarllen y cais.
Gofynnwch i rywun arall ddarllen eich cais.
A allaf ddefnyddio’r un cais ar gyfer pob swydd?
Na allwch. Mae angen cais newydd ar gyfer pob swydd wag, a byddem yn argymell y dylech deilwra eich cais a’ch CV i’r swydd.
Mae’r dyddiad cau wedi pasio. A allaf ymgeisio o hyd?
Na allwch. Ni allwch ymgeisio ar ôl i ddyddiad cau’r swydd wag basio ond cadwch olwg ar ein gwefan, oherwydd efallai y byddwn yn ailhysbysebu os na fydd y swydd yn cael ei llenwi.
A allaf newid y cais sydd wedi’i anfon?
Yn anffodus, ni allwch wneud unrhyw newidiadau ar ôl anfon eich cais. Os ydych wedi gwneud camgymeriad, mae croeso i chi anfon ebost i [email protected] i ofyn am gymorth.
A yw’n bosibl ailymgeisio os oedd fy nghais blaenorol yn aflwyddiannus?
Yn bendant. Gallwch ailymgeisio oni bai bod yna gyfarwyddiadau penodol sy’n nodi na ddylai ymgeiswyr blaenorol ailymgeisio. Gallai fod yn fanteisiol ailystyried camau 1, 2 a 3 ‘Sut mae ymgeisio am swydd wag’, a buddsoddi mwy o amser yn eich cais er mwyn gwella eich siawns o gyrraedd y rhestr fer efallai.
A fyddwch yn rhoi gwybod i fi os byddaf yn aflwyddiannus?
Byddwn, wrth gwrs! Bydd pob ymgeisydd yn cael neges ebost. Os na fyddwch wedi cael neges, dylech wirio eich ffolder ar gyfer ebost sothach neu anfon ebost i [email protected]
A allaf ofyn am adborth?
Gallwch, wrth gwrs! Atebwch y neges ebost a gawsoch i ddweud eich bod yn aflwyddiannus neu anfonwch ebost i [email protected] i ofyn am adborth.