CWESTIYNAU CYFFREDIN AM Y CORONAFEIRWS

Diweddarwyd ddiwethaf: 22/04/2022

Mae’r Coronafeirws yn effeithio’n fawr ar y modd y mae ein cymunedau’n byw eu bywyd o ddydd i ddydd, ac mae ateb wedi gorfod ymateb i’r sefyllfa hon sy’n newid yn gyflym. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon wrth i gwestiynau newydd godi.

 

Cyffredinol

10. Yw eich swyddfeydd ar agor?

Mae ein swyddfeydd ar gau i gwsmeriaid, felly dylech gysylltu â ni drwy ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau digidol a thrwy ddefnyddio ein rhifau ffôn arferol. I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Cysylltu â ni.

2. Beth os yw fy aelwyd yn hunanynysu?

Dylech gysylltu â ni’n syth fel ein bod yn gwybod sut mae rheoli unrhyw ymweliadau brys â’ch cartref neu unrhyw gymorth o ran lles y gallai fod arnoch ei angen.

3. Beth dylwn i ei wneud os wyf yn aros am ganlyniad prawf Covid-19?

Nid oes angen i ni wybod oni bai bod gennym apwyntiad wedi’i drefnu gyda chi.

4. Beth dylwn i ei wneud os yw canlyniad fy mhrawf Covid-19 yn bositif?

Dylech gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosibl i roi gwybod i ni. Dylech hefyd ganslo unrhyw apwyntiadau y gallech fod wedi’u trefnu gyda ni e.e. ar gyfer gwaith atgyweirio neu roi gwasanaeth.

Os oes gennych waith atgyweirio y mae angen ei wneud ar frys y tu allan i oriau gwaith arferol, cofiwch roi gwybod i ni pan fyddwch yn ffonio er mwyn i ni allu cymryd y rhagofalon angenrheidiol.

17. Fyddwch chi’n dal i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw tir?

Byddwn. Mae pob gwasanaeth o’r fath wedi ailddechrau erbyn hyn.

32. Yw eich meysydd chwarae ar agor?

Mae ein meysydd chwarae ar agor ar hyn o bryd.

 

Gwaith atgyweirio

5. Yw ateb yn gwneud unrhyw waith atgyweirio?

Mae ein gwasanaeth atgyweirio yn gweithredu’n ôl yr arfer, ond mae gennym lai o staff oherwydd COVID ac oherwydd bod staff yn sâl / yn gorfod hunanynysu.

Gallai fod rhywfaint o oedi cyn bod gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys yn cael ei gwblhau, wrth i ni roi blaenoriaeth i argyfyngau ac archwiliadau diogelwch tra bydd gennym nifer gyfyngedig o staff.

9. Ydych chi’n gwneud unrhyw welliannau arfaethedig, er enghraifft a fyddaf yn cael cegin neu ystafell ymolchi newydd?

Rydym wedi ailddechrau ar ein rhaglen o welliannau arfaethedig, allanol a mewnol, ond gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw tra byddwn yn clirio’r gwaith sydd wedi ôl-gronni ers 2020.

20. Ydych chi’n dal i redeg eich rhaglen o roi gwasanaeth i offer nwy?

Ydym – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

23. Sut y byddaf yn gwybod fy mod yn ddiogel pan fydd gweithwyr cynnal a chadw’n dod i fy nghartref i gyflawni gwaith atgyweirio brys?

Mae ein timau i gyd wedi cael cyfarpar diogelu personol, a byddant yn ei wisgo wrth ddod i mewn i’ch cartref ac yn sychu unrhyw arwynebau y maent wedi’u cyffwrdd. Dim ond gweithwyr holliach fydd yn cael eu hanfon i’ch cartref i gyflawni archwiliadau diogelwch hanfodol a gwaith atgyweirio brys.

28. Beth y mae angen i fi ei wneud pan fydd gofyn i weithwyr cynnal a chadw ddod i mewn i fy nghartref i gyflawni gwaith atgyweirio brys neu gynnal archwiliad diogelwch hanfodol?  

Mae ein staff a’n contractwyr i gyd wedi cael canllawiau ynghylch sut mae cyflawni gwaith yn ddiogel yn eich cartref yn ystod y pandemig Coronafeirws presennol. Dylech ddweud wrthynt cyn iddynt ddod i mewn i’ch cartref os oes gennych symptomau, os ydych yn hunanynysu neu os ydych ar y rhestr warchod, gan y bydd hynny’n llywio’r camau rhagofalus y bydd angen iddynt eu cymryd. Dylech gadw pellter cymdeithasol (dros 2 fetr) rhyngoch chi a chontractwyr neu staff ateb mewn ardaloedd cyffredin ac yn eich cartref, drwy aros mewn ystafell wahanol i’r un lle mae’r gwaith yn digwydd neu drwy aros yn yr ardd os oes gennych un.

 

Pryderon am arian neu rent

8. Oes angen i fi dalu fy rhent?

Oes, ond rydym yn gwybod bod hwn yn mynd i fod yn gyfnod anodd. Felly, hoffem ofyn i chi gadw mewn cysylltiad â ni ynglŷn â’ch amgylchiadau fel y gallwn eich helpu a’ch cynorthwyo i ymdrin â newidiadau annisgwyl a allai ddod ar eich traws.

6. Yw ateb yn dal i roi cyngor am fudd-daliadau?

Gallwn roi cyngor yn ôl yr arfer am fudd-daliadau, gan gynnwys drwy ymweliadau â chartrefi cwsmeriaid, dros y ffôn, drwy ebost a thrwy apwyntiadau fideo. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes arnoch angen help i hawlio eich Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau eraill.

15. Rwy’n cael problem talu fy nhreth gyngor. Beth y dylwn i ei wneud?

Ffoniwch yr Adran Dreth Gyngor yng Nghyngor Sir Penfro ar 01437 764551 i ofyn am gymorth.

18. Sut y gallaf dalu fy rhent heb ddod i mewn i’r swyddfa?

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch barhau i dalu eich rhent. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

 

Gosod tai

7. Beth os ydych yn aros i symud i mewn i un o gartrefi ateb?

Mae modd i bobl ddod i weld ein heiddo gan ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch. Gall cwsmeriaid ofyn am gael gweld eiddo trwy ddulliau rhithwir os yw’n well ganddynt wneud hynny.

21. Ydw i’n dal yn gallu cyfnewid fy nghartref â thenant arall (drwy drefniant cydgyfnewid)?

Ydych. Rydym yn gallu caniatáu achosion o gydgyfnewid eiddo unwaith eto, ond hoffem ofyn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni weithio drwy’r achosion sydd wedi ôl-gronni.

 

Llety Byw’n Annibynnol a Byw’n Annibynnol gyda Gofal Ychwanegol

11. Alla’ i ymweld â chynlluniau tai gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegol ateb?

Gallwch, ond gofynnwn i ymwelwyr gofio bod gennym staff a chwsmeriaid agored i niwed yn y cynllun. Felly, rydym yn mynnu eich bod yn parhau i wisgo gorchudd wyneb yn yr ardaloedd cyffredin mewnol a’ch bod yn parhau i olchi/diheintio eich dwylo’n rheolaidd.

Mae ateb yn annog pawb i gwrdd yn yr awyr agored gan mai dyna’r amgylchedd mwyaf diogel o hyd. Fodd bynnag, os oes yn rhaid i chi gwrdd dan do, gofynnwn i’n cwsmeriaid gwrdd â’u hymwelwyr yn eu fflatiau ac nid yn yr ardaloedd cyffredin mewnol.

Os byddwch yn cwrdd yn y gerddi cyffredin, mae ateb yn gofyn i chi ystyried defnyddwyr eraill yr ardaloedd hynny ac ystyried maint cyfyngedig yr ardaloedd dan sylw, ac mae’n gofyn i gwsmeriaid gwrdd â hyd at 4 yn unig o bobl o 4 aelwyd ar ein tir.

Mae croeso i weithwyr neu grefftwyr preifat ymweld â chwsmeriaid, ar yr amod nad oes ganddynt unrhyw symptomau Covid ac nad ydynt yn teimlo’n anhwylus. Gofynnir iddynt ddilyn y rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masg pan fyddant dan do. Rydym yn gofyn hefyd iddynt gynnal profion hunanbrofi cyflym am antigenau Covid-19. Gellir archebu profion o’r fath o Gov.uk.

13. Pryd y dylwn i agor fy nrws i gasglu’r cinio sydd wedi’ i ddosbarthu i fi? (Kensington a De Clare Court)

Mae bwytai Cynlluniau Gofal Ychwanegol Kensington Court a De Clare Court ar agor yn awr.

Os yw eich pryd bwyd yn cael ei ddosbarthu i’ch cartref am eich bod yn hunanynysu oherwydd COVID-19, sicrhewch nad oes neb y tu allan i’ch drws cyn eich bod yn ei agor i gasglu eich cinio.

14. Alla’ i barhau i gwrdd â phreswylwyr eraill yn ardaloedd cyffredin fy nghynllun?

Gallwch, mae ateb wedi agor ei gyfleusterau cyffredin mewnol er mwyn i gwsmeriaid gwrdd yn gymdeithasol â chwsmeriaid eraill o’r un safle. Bydd terfynau ar gapasiti’r ystafelloedd, a bydd y manylion i’w gweld wrth y fynedfa. Gofynnwn i’n cwsmeriaid barhau i gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb, golchi/diheintio eu dwylo’n rheolaidd, a defnyddio’r weips sydd wedi’u darparu i lanhau’r dodrefn ac unrhyw offer a rennir, cyn ac ar ôl iddynt gael eu defnyddio. Mae ateb yn annog ei gwsmeriaid i ddod â’u diodydd eu hunain gyda nhw.

Mewn ardaloedd allanol, gofynnwn i’n cwsmeriaid ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch cwrdd yn yr awyr agored.

16. Ydw i’n dal yn gallu gofyn am fân addasiad i fy nghartref?

Ydych, os diben yr addasiad yw eich helpu i ddychwelyd adref yn ddiogel o’r ysbyty neu os yw’n addasiad y mae ei angen ar frys er mwyn eich helpu i gadw’n ddiogel ac osgoi anaf yn eich cartref.

27. Alla’ i barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau golchi dillad sydd yn fy nghynllun tai gwarchod/cynllun gofal ychwanegol? 

Gallwch, ond dylech fod yn ymwybodol o’r angen i gadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo â sebon a dŵr poeth ar ôl defnyddio’r cyfleusterau golchi dillad. Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb bob amser pan fyddwch mewn ardaloedd cyffredin mewnol megis yr ystafell golchi dillad.

29. Pam yr ydych wedi symud y dodrefn o’r ardaloedd cyffredin mewn cynlluniau? 

Rydym wedi symud rhai o’r dodrefn er mwyn helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol yn naturiol. Rydym wedi sicrhau ein bod wedi gadael digon o seddau ar gyfer y terfyn ar gapasiti sy’n berthnasol i’r ystafell.

30. Allwn ni ymweld â thenantiaid eraill mewn fflatiau eraill os ydym i gyd yn hunanynysu?

Y cyngor sydd wedi’i nodi yn y canllawiau ynghylch COVID-19 yw na ddylech gwrdd â chwsmeriaid eraill yn eu fflatiau nhw oni bai eich bod wedi ymuno â nhw i greu aelwyd estynedig.

31. A fydd angen i bobl sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty neu gartref gofal gael prawf cyn eu bod yn dychwelyd i’r cynllun?

Bydd. Lle bo modd, bydd angen iddynt gael prawf a chael canlyniad negatif cyn eu bod yn dychwelyd adref. Os bydd eu canlyniad yn bositif dylent hunanynysu am y cyfnod a argymhellir, a hynny yn y man lle’r oeddent yn aros adeg y prawf os oes modd, a dylent gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosibl cyn dychwelyd adref. Os na allant gael prawf, gallant ddychwelyd i’r cynllun ond bydd angen iddynt hunanynysu am 14 diwrnod. Mae hynny’n golygu peidio â gadael eu heiddo am unrhyw reswm heblaw bod argyfwng neu bod angen iddynt gael help meddygol hanfodol. Rhowch wybod i ni os ydynt yn hunanynysu.

 

Nhenantiaeth

12. Beth os oes angen cyngor arnaf am broblemau eraill sy’n ymwneud â fy nhenantiaeth?

Mae croeso i chi ffonio a gofyn am gael siarad â’n tîm, gan ddefnyddio ein rhifau ffôn arferol, sef 01437 763688 neu 0800 854568.

22. Ydw i’n cael llosgi sbwriel yn fy ngardd?

Gorau oll os gallwch osgoi gwneud hynny. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

Cyngor a chymorth

25. Beth y dylwn i ei wneud os nad yw “aros gartref” yn gyfystyr â “cadw’n ddiogel” i fi?

Rydym yn deall nad yw aros gartref yn gyfystyr â chadw’n ddiogel i bawb. Os ydych mewn perthynas lle mae camdriniaeth yn digwydd ac os ydych yn poeni am orfod hunanynysu gyda rhywun sy’n achosi niwed i chi, gallwch gael help a chyngor ynghylch cadw’n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19. https://safelives.org.uk/staying-safe-during-covid-19-guidance

Gall nifer o asiantaethau gynnig cyngor a chymorth ychwanegol:

Os byddwch yn teimlo unrhyw bryd eich bod ar fin dioddef niwed – ffoniwch 999

26. Beth os yw fy iechyd meddwl yn waeth yn ystod y cyfnod clo?

Peidiwch â dioddef yn dawel. Rydym bob amser ben draw’r ffôn os oes ein hangen ni arnoch. Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd:

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →