Llongyfarchiadau mawr i Julie Edwards sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Womenspire Awards 2022 eleni.
Cafodd Julie, sy’n gweithio i Dîm Datblygu ateb, ei henwebu ar gyfer y wobr Dysgwr y Flwyddyn ar ôl iddi gwblhau Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg, a hithau’n 63 oed.
Meddai Will Lloyd Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, “Mae gan Julie ddawn arbennig, ac mae’n rhywun sydd â chyfraniad i’w wneud bob amser ac sy’n teimlo nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Roeddwn wrth fy modd o glywed ei bod wedi cyrraedd y rownd derfynol; dylai deimlo’n falch iawn o’i llwyddiant. Rydyn ni’n sicr yn falch iawn drosti!”
Ers iddi gwblhau’r cwrs, mae Julie wedi trawsnewid yn llwyr y cydbwysedd rhwng ei gwaith a’i bywyd, sy’n cynnwys gofalu am rieni ac wyrion.
Gallwch wylio ei fideo enwebu yma:
Mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn rhoi sylw i fenywod sy’n goresgyn rhwystrau ac sy’n cynorthwyo menywod eraill i gyflawni a ffynnu, ac maent yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Dyma’r seithfed flwyddyn i’r gwobrau gael eu cyflwyno, a hynny yn Adeilad Pen y Lanfa yng Nghaerdydd. Cafodd y seremoni ei darlledu’n fyw i filoedd drwy ffrydiau Facebook Live a Twitter ITV Cymru Wales.
Meddai Julie wrth sôn am y digwyddiad, “Roedd yn fendigedig. Roedd yna ddeg categori, ac roedd cael fy enwebu a bod ymhlith y bobl hynny’n deimlad braf. Roedd rhai o’r straeon, y pethau yr oedd y menywod hynny wedi’u gwneud, yn wirioneddol ysbrydoledig. Roedd pobl o bob cefndir a phob math o yrfaoedd yn rhan o’r digwyddiad. Roedd bod yn yr un ystafell â’r holl fenywod ysbrydoledig hynny’n fraint fawr.”
Yn ateb rydym yn buddsoddi yn ein timau; mae gennym gynllun cynhwysfawr ar gyfer dysgu a datblygu, rydym yn cynorthwyo unigolion sydd mewn rolau datblygu ac rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu, megis y Rhaglen Datblygu Gyrfa. Mae hynny’n bwysig i ni ac yn rhywbeth sy’n cael ei werthfawrogi gan unigolion fel Julie.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i ateb am y cyfle i gael dilyn y cwrs, am roi amser i fi gwblhau’r diwrnodau o hyfforddiant ac am gymorth pawb a roddodd adborth i fi. Mae’r cwrs wedi bod mor fuddiol i fi, yn fy ngwaith ac yn fy mywyd personol. Dysgais lawer o bethau sydd wedi dod yn rhan o’m bywyd pob dydd ac sydd wedi fy helpu gymaint. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau fy nhîm sy’n fy nghynorthwyo bob amser ond a oedd yn arbennig o gefnogol tra oeddwn yn dilyn y cwrs.”
Llongyfarchiadau i Julie.
Os hoffech chi ymuno â chyflogwr sy’n buddsoddi mewn cyfleoedd i’w dimau ddysgu a datblygu, cadwch olwg ar dudalen swyddi gwag ateb.