Cyfnewid Fy Nghartref

Beth os ydw i am gyfnewid fy nghartref â rhywun arall?

Mae HomeSwapper yn wasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer ein tenantiaid sydd am symud drwy gyfnewid eu cartref â thenant Cyngor neu Gymdeithas Dai arall, yn lleol neu’n genedlaethol. Caiff trefniant o’r fath ei alw fel arfer yn drefniant ‘cydgyfnewid’.

Gall unrhyw un o denantiaid ateb ymuno â HomeSwapper. Ar ôl i chi gofrestru, bydd HomeSwapper yn chwilio am unrhyw gyfnewidiadau newydd posibl ar eich cyfer. Os oes diddordeb gennych mewn eiddo sy’n cyd-fynd â’ch anghenion, dylech ddefnyddio manylion y tenant arall i gysylltu ag ef er mwyn i chi weld eiddo eich gilydd. Cliciwch yma i gofrestru neu weld HomeSwapper.

Pan fyddwch wedi dod o hyd i eiddo addas, dylech lenwi ein
 Ffurflen Cofrestru Trefniant Cydgyfnewid a’i hanfon i [email protected]

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →