Cymryd rhan drwy gydol y flwyddyn

Diben cymryd rhan yw gallu dweud wrthym sut brofiad yw bod yn un o denantiaid neu gwsmeriaid Ateb. Yna, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno wrth i ni weithio i wella ein gwasanaethau ar eich cyfer – mae mor syml â hynny.

Gallwch gymryd rhan mewn llawer o wahanol ffyrdd, a gallwch fynd a dod fel y mynnwch er mwyn sicrhau na fyddwch yn teimlo’n gaeth i unrhyw drefn benodol. Dyma rai o’r digwyddiadau y mae’r tenantiaid yn eu mynychu:

Yr Arolygon Ymgysylltu i Wella a Sesiynau’r Grŵp Cydlynu

Bob yn ail fis, byddwn yn ymgysylltu â channoedd o gwsmeriaid Ateb trwy gynnal arolygon a chael gwybod sut y mae pobl yn teimlo ynghylch rhai themâu, ee Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig neu ein Gwasanaeth Atgyweirio. Cliciwch yma i weld canlyniadau llawn un o’r arolygon hyn. Ar ôl pob arolwg, bydd aelodau o staff a thenantiaid yn cyfarfod yn Nhŷ Meyler i drafod y canfyddiadau ac i gynllunio pwyntiau gweithredu ar sail y canfyddiadau hynny. Byddwn hefyd yn trafod adborth a’r hyn a gyflawnwyd yn sgil pwyntiau gweithredu arolygon blaenorol, a byddwn yn cynllunio’r arolwg nesaf gyda’n gilydd.

Ar hyn o bryd, rydym yn cyfarfod ar ail ddydd Mawrth y mis ym mhrif swyddfa Ateb, Tŷ Meyler, Hwlffordd, SA61 1QP am 10:00, ond dylech fynd i’r adran Newyddion a Digwyddiadau ar y wefan hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os byddai’n well gennych rannu eich safbwyntiau’n electronig, ee trwy Facebook, ebost neu neges destun, mae croeso i chi wneud hynny. Cysylltwch ag Ali Evans 01437 774766/01437 763688/07500 446611/Facebook/[email protected]

Os oes unrhyw beth yn eich rhwystro mewn unrhyw fodd rhag mynychu unrhyw un o ddigwyddiadau Ateb neu gymryd rhan ynddynt, megis gofal plant, iaith, trafnidiaeth, amserau’r digwyddiadau neu anabledd, cysylltwch ag Ali a fydd yn eich helpu os oes modd: ein nod yw cynnwys pawb sydd am gael eu cynnwys.

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →