Cymryd rhan

Cymryd rhan yn ateb

Ymgysylltu i Wella

Fyddech chi’n hoffi helpu ateb i wella’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i chi?

Gallech hefyd gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd.

Os felly, dyma rai o’r ffyrdd y gallwch gymryd rhan:

Fforwm Cwsmeriaid y fenter Ymgysylltu

Grŵp Cynllunio Arolygon y fenter Ymgysylltu

Digwyddiadau cymunedol

Dweud wrthym yn uniongyrchol

Cwblhau arolygon a holiaduron

Bod yn rhan o gyfweliad

Ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol

Mynychu grwpiau ffocws neu grwpiau diddordeb arbennig am gyfnod byr:

Ymuno â grŵp cwsmeriaid lleol

Dod i drafodaeth neu gymanfa ar gyfer cwsmeriaid

Ymunwch â digwyddiad, hyfforddiant neu fforwm a drefnir gan TPAS Cymru

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – anfonwch eich manylion atom a bydd tîm y fenter Ymgysylltu mewn cysylltiad â chi.

Dyma rai enghreifftiau o sut yr ydych wedi gwneud gwahaniaeth yn barod: Beth sydd wedi newid?

Calendr Digwyddiadau’r fenter Ymgysylltu

Mae calendr y fenter Ymgysylltu yn ffordd wych o weld pryd y mae llawer o’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal.

Ewch i Galendr 2024 y fenter Ymgysylltu

Ewch i Galendr 2023 y fenter Ymgysylltu

Cofiwch, gallwch gymryd rhan mewn llawer o wahanol ffyrdd:

  • gallwch fynd a dod fel y mynnwch yn hamddenol, yn unol â’r amser sydd gennych i’w gynnig
  • gallwch ddod i bethau ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • gallwch ddewis eich dulliau eich hun, e.e. WhatsApp, y wefan, ebost, cyfryngau cymdeithasol, y ffôn neu’r post

A pheidiwch â gadael i ddim eich atal – nod ateb yw chwalu rhwystrau er mwyn i chi allu cymryd rhan.

Dyma rai o’r pethau yr ydym yn gwybod y gallai fod arnoch angen help gyda nhw:

  • trefniadau a/neu gostau cludiant
  • iaith, gwasanaethau cyfieithu
  • amser
  • gofal / dyletswyddau gofal
  • hygyrchedd

Er gwybodaeth…

  • Mae’r ystafelloedd cyfarfod yr ydym yn eu defnyddio’n rhai hygyrch.
  • Caiff digwyddiadau cymunedol, cymanfaoedd a sesiynau sgwrsio eu cynnal drwy gydol y flwyddyn yn ystod y dydd a gyda’r nos.
  • Rydym yn ymweld ag amryw leoliadau ar draws y sir

Pa bynciau gwella yr ydym wedi’u hystyried mor belled?

Dyma’r PYNCIAU GWELLA yr ydym wedi ymdrin â nhw hyd yma.

A ydym wedi gwneud gwahaniaeth?

Darllenwch ein HADRODDIADAU DIWEDDARU BOB 6 MIS sy’n nodi sut yr ydym yn teimlo bod y fenter Ymgysylltu yn gwneud gwahaniaeth.

Os hoffech gymryd rhan ac os oes unrhyw beth yn eich atal, mae croeso i chi gysylltu i drafod sut y gallem eich helpu.

[email protected]

0800 854 568

neu ffoniwch Ali Evans, ein Cydlynydd Ymgysylltu, yn uniongyrchol ar

01437 774766 /  07500 446611

 

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →