Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid 2023 (Cynhelir gan TPAS Cymru)

Dyma gyfle i chi gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru, sydd hefyd yn byw mewn tai cymdeithasol, a thrafod a dysgu am bynciau’r dydd sy’n bwysig i chi. Mae un lle, gydag ystafell wely anghenion cyffredinol ar gael, oherwydd canslad.

Dyma gipolwg ar gynhadledd:

https://www.tpas.cymru/cynhadledd-genedlaethol-ymgysylltu-thenantiaid-cymru-2023

Eleni:

  • Yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod
  • Ar 14 – 16 Tachwedd 2023
  • Opsiwn 1 neu 2 ddiwrnod
  • Yn bosibl aros am 1 neu 2 noson
  • ateb yn talu’r costau i gyd, gan gynnwys costau gofal a chludiant
  • Drwy fynychu Cynhadledd TPAS, byddech yn cynrychioli ateb a byddai disgwyl i chi gasglu gwybodaeth y gallech ddod â hi’n ôl i ateb er mwyn helpu cwsmeriaid eraill ateb. Byddech yn cael llawer o help gan ateb i gyflawni’r dasg hon.

Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso i chi gysylltu ag Ali Evans erbyn 30/06/23: 01437 774766 / 07500 446611 [email protected]

Diweddarwyd: 27/10/23