Ydych chi wedi cadw eich lle yn y gynhadledd i denantiaid ar gyfer eleni?
Dyma gyfle gwych i chi gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru sydd hefyd yn byw mewn tai cymdeithasol, ac i drafod a dysgu am bynciau llosg sy’n bwysig i chi.
Eleni:
- Yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod
- Ar 13 – 14 Tachwedd 2024
- Opsiwn 1 neu 2 ddiwrnod
- Opsiwn i aros am 1 neu 2 noson
- ateb yn talu’r costau i gyd, gan gynnwys costau gofal a chludiant
- Drwy fynychu’r gynhadledd hon gan TPAS, byddech yn cynrychioli ateb a byddai disgwyl i chi gasglu gwybodaeth y gallech ddod â hi’n ôl i ateb er mwyn helpu cwsmeriaid eraill ateb. Byddech yn cael llawer o help gan ateb i gyflawni’r dasg hon.
Bydd cwsmeriaid a hoffai fynychu ar y ddau ddiwrnod yn gallu cadw lle o 12 canol dydd ddydd Llun 8 Gorffennaf ymlaen.
Bydd cwsmeriaid a hoffai fynychu ar un diwrnod a mynychu pob opsiwn arall yn gallu cadw lle o 12 canol dydd ddydd Llun 15 Gorffennaf ymlaen.
Dim ond nifer gyfyngedig o ystafelloedd sydd gan Westy’r Metropole, ac o blith y rheini mae nifer lai fyth yn addas i bobl ag anableddau. Mae’r ddwy ystafell sy’n hollol hygyrch yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, felly rhoddir blaenoriaeth i gynrychiolwyr y mae angen y cyfleusterau hynny arnynt.
Felly, cofiwch anfon ebost i [email protected] neu ffonio Ali Evans ar 01437 774766 / 07500 446611.
Rydym yn edrych ymlaen at gynhadledd lwyddiannus arall gan TPAS Cymru ac yn gobeithio y gwelwn ni chi yno!