Cystadleuaeth Arddio 2020 ateb – y buddugwyr!

Mae tîm e2i yn falch iawn o allu cyhoeddi enwau buddugwyr Cystadleuaeth Arddio 2020 ateb. Mae’r marciau i gyd allan o 40. Roedd gennym bedwar o feirniaid sydd i gyd yn aelodau o staff ateb: Ania Eva, Christine Whelton, Julie Edwards a Ruth Preece. Gwelsom enghreifftiau gwych o bobl yn ailgylchu, uwchgylchu ac arloesi, ac rydym yn fodlon ac yn falch iawn o’r modd yr aethoch ati o ddifrif i ddefnyddio hen bethau a throi eich gerddi’n fannau mor hardd yn ystod cyfnod anodd tu hwnt. Roedd y safon yn uchel iawn, roedd y cynigion yn amrywiol dros ben ac roedd dehongliad unigryw pob cystadleuydd o deitl ei ddosbarth yn wych i’w weld – llongyfarchiadau i bawb a diolch am rannu eich gerddi gwych â ni. 

Mae pob un o’r gwobrau wedi’u hanfon drwy ebost, felly cofiwch gysylltu os byddwch yn cael trafferth dod o hyd i’r talebau electronig neu’n cael trafferth eu defnyddio.

Defnydd gorau o hen bethau  

1af Susan Thomas (Pen y Cwm)  38 o bwyntiau (y prif lun)

Sylwadau’r beirniaid: 

“Rwy’n hoff iawn o’r modd y mae cwpanau te wedi’u defnyddio fel potiau blodau, a’r modd y mae’r beic a’r padl wedi’u defnyddio at ddibenion addurno. Mae’n wirioneddol hardd.   

“Roeddwn i wrth fy modd â hwn – mae defnyddio’r fasged a’r helmedau i wneud i hen feic edrych yn fwy diddorol yn syniad gwych. Roeddwn i hefyd yn meddwl bod defnyddio drwm peiriant sychu/golchi dillad yn wreiddiol iawn. Mae’r ardd yn cyfuno syniadau arloesol am ffyrdd o ailddefnyddio hen bethau mewn modd dychmygus.”

2il Jean Wright (St Florence)  16 o bwyntiau 

3ydd Netty Jones (Penfro)  10 o bwyntiau 

 

Yr ardd orau gan berson ifanc  

1af Oliver a Angel (St Florence)  38 o bwyntiau 

Sylwadau’r beirniaid: 

“Roedd gwaith y cystadleuydd hwn yn cynnwys amrywiaeth o elfennau: cot ffres o baent, ailddefnyddio hen ddodrefn a thyfu llysiau. Mae’n edrych yn wych! 

“Defnydd ardderchog o ardd fach. Mae’n ffordd o gadw’r plant yn brysur a’u cyflwyno i’r arfer o dyfu pethau ac ailgylchu hen gynwysyddion – daliwch ati gyda’r gwaith da.  

 

Yr ardd orau o safbwynt yr amgylchedd/bywyd gwyllt 

1af Jean Wright (St Florence) 29 o bwyntiau  

Sylwadau’r beirniaid: 

“Mae’r ardd hon yn atyniad bendigedig i fywyd gwyllt. Ynddi mae’r teclynnau bwydo adar yn hongian yn uchel, sy’n sicrhau eu bod yn ddigon pell o unrhyw ysglyfaethwyr a’u bod yn osgoi denu fermin. Mae hynny’n dangos bod yr ardd wedi’i chynllunio’n dda. Mae blodau’r ardd yn lliwgar er mwyn denu gwenyn ac ieir bach yr haf, ac mae hynny yn gwella’r graddau y mae planhigion a blodau’n cael eu peillio. Mae’r lluniau o’r wiwer a’r adar yn bwyta yn yr ardd yn dangos bod yr ardd yn ddigon atyniadol i’w denu i fwyta a mwynhau ynddi, ac mae hynny’n olygfa fendigedig i’r perchennog ei mwynhau hefyd. Mae pawb ar eu hennill, felly! Mae’r felin wynt garedig i’r amgylchedd, a’r ffaith bod dŵr o gasgen ddŵr yn cael ei ailgylchu, yn ddefnydd effeithiol o ynni heb amharu ar harddwch yr ardd sy’n rhoi pleser i’r perchennog ac i fywyd gwyllt. Da iawn! 

2il Shannon Folena (Hwlffordd) 26 o bwyntiau 

3ydd Margaret Barker (Aberdaugleddau) 21 o bwyntiau 

 

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf  

1af Lola Balntas (Bryste) 28.5 o bwyntiau 

Sylwadau’r beirniaid: 

“Mae’r gwahaniaeth rhwng y lluniau a dynnwyd cyn ac ar ôl i waith gael ei wneud yn yr ardd hon yn anhygoel! Mae’r gwelyau uchel sydd wedi’u cynllunio yn dda’n edrych yn wych, ac mae’r ffens bolion hyfryd sy’n rhannu’r ardd yn gwneud iddi ymddangos yn llai hir. Mae’r planhigion wedi’u gosod yn dda ym mhob rhan ohoni, ac rwy’n dwlu ar y fainc sydd wedi’i phaentio ac ar ei lleoliad, sy’n golygu bod pwy bynnag sy’n eistedd arni’n gallu gweld yr ardd i gyd. Mae’n ardd gymen iawn sy’n llawn cymeriad ac sydd â chynllun lliw addas. Mae’n wledd i’r llygad. Llongyfarchiadau i berchennog yr ardd hon, oherwydd mae wedi dangos llawer o sgìl a dychymyg.”  

2il Barrie Williamson (Penfro) 19 o bwyntiau 

3rd Netty Jones (Penfro) 10 o bwyntiau 

 

Y cynnyrch gorau y gellir ei fwyta  

1af Anne Jones (Penfro) 40 o bwyntiau 

Sylwadau’r beirniaid: 

“Roedd yma gymaint o amrywiaeth – llwyni ffrwythau, riwbob, pys, ffa, rhywbeth tebyg i india-corn, wynwns, moron, cennin … wnes i adael unrhyw beth allan? 

“Mae’r ardd hon yn cynnwys amrywiaeth eang o gynnyrch y gellir ei fwyta. Mae’r borderi yn drefnus ac yn gymen iawn ac mae’r planhigion yn cael llawer o olau ac yn cael eu cynnal yn dda. Daeth yr ardd hon i’r brig o’m rhan i oherwydd yr amrywiaeth, y plannu trefnus, a chymhendod a thaclusrwydd y borderi. Da iawn, Anne. Mwynhewch eich cynnyrch!”  

2il Jean Wright (St Florence) 17 o bwyntiau 

3ydd William (New Hedges) 15 o bwyntiau 

 

Yr ardd orau gan oedolyn  

1af Roy Sword (Hwlffordd) 25 o bwyntiau 

Sylwadau’r beirniaid: 

“Mae’r amrywiaeth hyfryd o flodau unflwydd yn ogystal â llwyni, coed a rhosod mwy aeddfed yn ddeniadol iawn yn yr ardd hon. Mae ôl llawer o ofal arni, a chaiff ei harddwch ei ymestyn gan fod potiau wedi’u plannu yn nhu blaen yr eiddo hefyd – sy’n edrych yn hyfryd o’r stryd i unrhyw ymwelwyr ac unrhyw bobl sy’n digwydd pasio.  Mae’r ardd yn edrych yn lân ac yn daclus iawn ac mae’r blodau yn ffynnu. Mae’n edrych fel gardd sydd wedi cymryd blynyddoedd o sylw a chariad i aeddfedu a datblygu.” 

“Mae’r potiau lliw yn gefndir gwych i’r gwaith plannu hyfryd ac mae’r cerrig palmant yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn edrych yn lân yn erbyn y potiau llachar. Byddai’n anodd dod o hyd i ardd sy’n daclusach na hon, dd’wedwn i! Llongyfarchiadau i’r perchnogion ar eu sylw i fanylion. Dyma ardd i’w mwynhau ac i ymfalchïo ynddi, heb os.”  

2il William (New Hedges) 18 o bwyntiau 

3ydd Karen Maindorge (Hwlffordd15 o bwyntiau 

 

Y defnydd mwyaf arloesol o le bach  

1af Paul Sharp a Jane Read (Penfro) 27 o bwyntiau 

Sylwadau’r beirniaid:

“Mae’r ardd hon wedi’i gweddnewid yn gyfan gwbl! Mae’n edrych yn ardal hyfryd iawn i eistedd ac ymlacio ynddi ac mae’r lliwiau a ddefnyddiwyd yn effeithiol tu hwnt. Mae’r defnydd da a wnaed o liw er mwyn cael y ffens a’r ardal eistedd i gyd-fynd â’i gilydd, a’r modd y mae’r glaswellt yn cyferbynnu â hynny, yn golygu bod yma ardd gymen i’r teulu, sydd wedi’i chynllunio yn dda. Da iawn. Dyma ardd sydd wedi’i chynllunio’n dda ac sydd wedi golygu cryn dipyn o waith, yn ôl pob golwg. 

“Rwy’n hoffi’r modd y mae trawstiau rheilffordd wedi’u defnyddio i greu’r strwythur sy’n cynnal y lefel uwch. Mae llawer o bethau yn yr ardd hon, mewn lle sydd mor fach. 

2il Sarah Roche (Penfro) 26 o bwyntiau 

3ydd Anne Jones (Penfro) 6 o bwyntiau 

DIOLCH O GALON I BOB UN O’N CWSMERIAID YN ATEB , AC I’R GYMUNED EHANGACH, A GYMERODD RAN YN Y GYSTADLEUAETH HON ELENI