Cystadleuaeth Arddio 2024

Mae ein Cystadleuaeth Arddio yn ei hôl ar gyfer 2024 gyda ffordd newydd, well o feirniadu

Rydym wedi gwrando arnoch, ac eleni rydym yn gadael i chi benderfynu pryd y byddwn yn dod i feirniadu eich gardd. Byddwch chi’n dweud wrthym ni ym mha wythnos y byddech yn hoffi i ni ymweld â chi (rhwng mis Mai ac wythnos gyntaf mis Medi) a bydd aelod o’r tîm yno i weld eich gardd yn ei holl ogoniant!

Dyma gyfle gwych i chi arddangos eich sgiliau, waeth beth yw maint eich gardd. Cofiwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth – bydd yna wobrau ariannol gwych, bydd y beirniadu’n digwydd wyneb yn wyneb, a bydd seremoni wobrwyo fendigedig yn cael ei chynnal a fydd yn cynnwys te prynhawn ac a fydd yn agored i’r cystadleuwyr i gyd a’u hanwyliaid.

Gallwch gymryd rhan yn unrhyw un o’r dosbarthiadau canlynol:

1/ Yr Ardd Orau gan Berson Ifanc (dan 16 oed)

2/ Yr Ardd Orau o Safbwynt yr Amgylchedd / Bywyd Gwyllt (a yw eich gardd yn helpu’r amgylchedd mewn rhyw fodd? Er enghraifft, ydych chi’n defnyddio casgenni dŵr / ydy’r ardd yn denu llawer o wenyn neu ieir bach yr haf / peillwyr / a oes gennych abwydfa)

3/ Y Defnydd Gorau o Hen Bethau – Mae’r dosbarth hwn yn clodfori defnydd dychmygus o hen eitemau. Does dim angen i chi wario llawer o arian i gael gardd bert.

4/ Y Blwch Ffenestr Gorau neu’r Fasged Grog Orau

5/ Y Blodyn Haul Talaf

6/ Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf (er mwyn ymgeisio yn y dosbarth hwn, bydd angen i chi anfon lluniau o’r ardd mewn i ateb, cyn i chi ddechrau gweithio arni, er mwyn i ni allu gweld sut y mae eich gardd wedi gwella)

7/ Yr Ardd Hygyrch Orau 

8/ Y Cynnyrch Gorau y Gellir ei Fwyta

9/ Y Defnydd Mwyaf Arloesol o LE BACH

10/ Yr Ardd Unigol Orau

11/ Yr Ardd a Rennir/yr Ardd Gyffredin Orau (y bu grŵp yn hytrach nag unigolyn yn gweithio arni)

12/ Y Lle Awyr Agored Mwyaf Cymen – Mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio ar ba mor lân a thaclus rydych yn cadw’r lle sydd o gwmpas eich cartref.

13/ Y Stryd neu’r Ystad Fwyaf Cymen – Ydych chi’n ymfalchïo yn eich stryd? Ydych chi’n ei chadw’n lân ac yn daclus? Ydych chi wedi gwneud gwelliannau?

14/ Gwobr i Arwr Tawel – Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud mwy na’r disgwyl i ofalu am ardd / lle awyr agored cymunedol ac sy’n haeddu diolch?

Gwobrau

1af £35

2il £10

3ydd £5 ym mhob dosbarth

ar wahân i ddosbarthiadau 11 ac 13 lle mae’r wobr 1af yn £100.

Byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 23/09/24. Byddwn yn cysylltu â phawb drwy ebost gyda chanlyniadau’r gystadleuaeth, hyd yn oed os nad ydych yn enillydd.

Bydd pob cystadleuydd, boed yn llwyddiannus neu beidio, yn cael gwahoddiad i De Parti Gwobrwyo yn Kensington Court, Steynton, a gynhelir rhwng 4pm a 6pm ddydd Iau 10 Hydref 2024.

Sut mae ymgeisio

I ymgeisio, defnyddiwch ein FFURFLEN YMGEISIO ar-lein.

Os na allwch wneud hynny, anfonwch y wybodaeth isod drwy ebost i [email protected]

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad ebost
  • Yr wythnos yr hoffech i feirniad ddod i weld eich gardd / eich cynnyrch ac ati. DS Gall hynny fod rhwng dydd Mercher 1 Mai a dydd Gwener 6 Medi 2024: chi fydd yn dewis yr wythnos pan fyddwn yn beirniadu eich cais!
  • Enwau’r dosbarthiadau yr hoffech gymryd rhan ynddynt

Os na allwch ddefnyddio ein ffurflen ymgeisio ar-lein na chysylltu â ni drwy ebost, ffoniwch ni ar 0800 854 568 i roi’r wybodaeth uchod i ni.

Rheolau

  • Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 3pm ddydd Gwener 30 Awst 2024.
  • Byddwn yn ymweld â chi a’ch gardd yn bersonol. Rhaid i holl ymweliadau’r beirniaid fod wedi’u cwblhau cyn dydd Gwener 6 Medi.
  • Nid ydym yn gwarantu y byddwn yn gallu ymweld â chi i feirniadu yn ystod yr wythnos yr ydych wedi gofyn amdani.
  • Rhaid eich bod yn byw yn Sir Benfro.
  • Os ydych am ymgeisio yn Nosbarth 6 – Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf – rhaid bod wedi anfon luniau, neu fideos byr, o’r ardd fel yr oedd hi, cyn ein hymweliad.
  • Gallwch gofrestru’r un ardd ar gyfer unrhyw nifer o ddosbarthiadau addas.
  • Wrth anfon eich ffurflen ymgeisio, rhaid i chi nodi pa ddosbarthiadau yr hoffech gymryd rhan ynddynt.
  • Bydd ceisiadau’n cael eu derbyn drwy ffurflen ar-lein, drwy ebost neu dros y ffôn gydag aelod o’n tîm yn llenwi’r ffurflen ar-lein. Nid oes yn rhaid talu i gymryd rhan.
  • Ni all staff ateb ymgeisio.
  • Drwy ymgeisio yng Nghystadleuaeth Arddio ateb 2024, rydych yn cadarnhau eich bod yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio lluniau a dynnwyd o’ch gardd ar ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Os bydd gennym lai na 5 cais mewn unrhyw ddosbarth, rydym yn cadw’r hawl i ddileu’r dosbarth hwnnw
  • Rydym yn cadw’r hawl i dynnu dosbarthiadau’n ôl neu dynnu’r gystadleuaeth gyfan yn ôl unrhyw bryd. Bydd pob un o benderfyniadau’r beirniaid yn rhai terfynol.

Cysylltwch ag Ali Evans i gael mwy o wybodaeth: 01437 774766 / 07500 446611 [email protected]

Cyhoeddwyd: 20/02/2024

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni