Cystadleuaeth Arddio ateb – Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd!

Roedd ein cystadleuaeth arddio yn ei hôl eleni ac yn gryfach nag erioed. Cafwyd ceisiadau gwych ac roedd llawer o wobrau ariannol i’w hennill.

Dyma enillwyr 2023:

  • Yr Ardd Unigol Orau – Karen M
  • Yr Ardd Eco-gyfeillgar Orau – Helen P
  • Y Blwch Ffenestr Gorau – Alan E
  • Y Fasged Grog Orau – Alan E
  • Y Blodyn Haul Talaf – Lorraine T
  • Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf – Catherine G
  • Yr Ardd Hygyrch Orau – Claire P
  • Y Cynnyrch Gorau y gellir ei Fwyta – Robert H
  • Y Defnydd Mwyaf Arloesol o Le Bach – Charles M
  • Yr Ardd Gyffredin Orau – Kensington Court

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn DeClare Court yn Hwlffordd a chafodd y sawl a oedd yn bresennol gyfle i fwynhau bwffe bendigedig a cherddoriaeth fyw.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, a oedd wedi’i syfrdanu gan safon y ceisiadau eleni. “Mae safon y ceisiadau eleni wedi bod yn anhygoel. Rwy’n falch nad oes yn rhaid i fi feirniadu’r categorïau gan fod y safon mor uchel. Rhaid bod dewis yr enillwyr wedi bod yn waith anodd iawn. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb yn Sir Benfro, ond rwy’n arbennig o falch o geisiadau ateb ac o ofal pobl am eu gerddi a’u hoffter ohonynt. Mae’n bleser gweld hynny.”

Diolch i bawb a ymgeisiodd ac edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o geisiadau’r flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd: 01/09/2023