Danteithion i ddweud diolch!

Cafodd cwsmeriaid yn ein cynlluniau tai gwarchod a’n cynlluniau gofal ychwanegol rodd annisgwyl yr wythnos hon pan fuodd Rheolwyr Cynllun, Cydlynwyr Cynllun a gwirfoddolwyr o Dîm Lles ateb yn dosbarthu 246 o focseidiau o ddanteithion i’w mwynhau.

Rydym bob amser yn sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn, ond rydym wedi gorfod newid ein ffordd o wneud hynny yn ystod y cyfnod clo. Roeddem am ddiolch yn syml iawn i’r cwsmeriaid yn ein cynlluniau am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym yn falch dros ben o glywed bod pawb wedi mwynhau’r danteithion. Dyma rai o’r sylwadau hyfryd a gawsom:

“A wnewch chi ddiolch i ateb ar fy rhan am y bocsaid o ddanteithion blasus? Dyna beth oedd syrpréis neis.

Diolch i’r holl staff am ddod â’r bwyd. Roedd yn rhodd wirioneddol garedig.

Roedd y te prynhawn yn rhagorol. Chwarae teg i ateb, a diolch.

Alla i ddim credu bod rhywun wedi bod mor garedig â meddwl amdana’ i a rhoi’r bwyd bendigedig yma i fi.”