Yn ateb rydym yn credu bod bywyd gwell yn dechrau mewn lle y gallwch ei alw’n gartref, ac i un pâr arbennig mae eu cartref wedi bod yn ganolog i’w siwrnai anhygoel gyda’i gilydd.
Y mis hwn, mae’n bleser mawr gennym ddathlu pen-blwydd priodas dau o’n cwsmeriaid sy’n briod ers 70 mlynedd. Dechreuodd stori garu’r ddau mewn lle annisgwyl iawn – mewn llochesau cyrch awyr a oedd gyferbyn â’i gilydd ym Mryste yn ystod y Blits. Ers iddynt gyfarfod gyntaf dros 70 mlynedd yn ôl, maent wedi creu oes o atgofion gan ganolbwyntio bob amser ar yr amseroedd da.
Meddent, wrth feddwl am y garreg filltir briodasol bwysig y maent wedi’i chyrraedd:
“Rydym wedi bod yn bwrw golwg yn ôl ar ein bywyd gyda’n gilydd, ac rydym yn teimlo mor ddiolchgar i ateb am ein helpu i aros gyda’n gilydd drwy gynlluniau byw’n annibynnol y gymdeithas dai. Rydym wedi byw yn nau o gynlluniau byw’n annibynnol ateb, ac maent wedi rhoi i ni’r cymorth angenrheidiol i allu byw’n annibynnol gyda help ein gofalwyr preifat gwych. Rydym wedi bod yn gwsmeriaid hapus i ateb ers dros 18 mlynedd, ac rydym bob amser yn dweud – os ydych am fyw am 20 mlynedd arall, trowch at ateb!”
Mae eu geiriau’n cyfleu i’r dim beth yw hanfod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni – helpu pobl i fyw’n dda, mewn cartrefi sy’n addas i’w hanghenion, mor hir ag sy’n bosibl. Bwriad ein cynlluniau byw’n annibynnol yw darparu cysur, diogelwch a chymuned gefnogol, sy’n galluogi pobl i aros yn annibynnol a chael y lefel gywir o gymorth ar yr un pryd, pan fo angen.
Rydym yn falch dros ben o fod wedi bod yn rhan o siwrnai’r ddau, ac o fod wedi cyfrannu at sicrhau eu bod yn gallu parhau i fyw gyda’i gilydd mewn cartref y maent yn dwlu arno. Mae eu stori yn brawf o rym cariad, gwytnwch a phwysigrwydd cael amgylchedd cefnogol gartref.
Hoffem longyfarch y pâr ysbrydoledig hwn ar ddathlu 70 mlynedd o gariad ac agosatrwydd, a dymuno’n dda iddynt am flynyddoedd lawer i ddod.