Mae croeso i bob un o gwsmeriaid ateb fynychu’r Fforwm Cwsmeriaid. Bydd yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ar 29 Chwefror 2024 (mae pawb yn gweld ei gilydd ar sgrin cyfrifiadur fel rheol) yn Saundersfoot.
- Mae’n gyfle i gael diweddariadau gan staff a chwsmeriaid ateb
- Mae’n fforwm i chi gael mynegi eich barn am eitemau sydd ar yr agenda ac am deimladau mwyfwy cyffredin a allai effeithio ar lawer o gwsmeriaid ateb
- Mae’r sesiynau’n hamddenol ac yn anffurfiol
- Erioed wedi bod o’r blaen? Rhowch gynnig i ni!
Grŵp Gweithredu ateb ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae ateb yn awyddus i chi ddod i’r sesiwn wedyn hefyd: Grŵp Gweithredu ateb ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os ydych yn teimlo bod gennych ddiddordeb yn y pwnc hwn, mae croeso i chi gadw lle yn y digwyddiad hwn hefyd neu gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd cinio’n cael ei ddarparu i’r sawl a fydd yn mynychu’r Fforwm Cwsmeriaid a’r sesiwn ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn y lleoliad.
Mae help ar gael gyda threfniadau a chostau teithio – cysylltwch â ni i nodi eich anghenion.
Mae archebu lle yn hanfodol: Archebwch le ar gyfer y naill neu’r llall, neu’r ddau, ddigwyddiad yma
BLE: Neuadd Regency, Stryd Milford, Saundersfoot SA69 9NG
PRYD: 29/02/24
AMSERLEN:
- 10:00 – 12:00 Fforwm Cwsmeriaid
- 12:00 – 13:00 Cinio
- 13:00 – 15:00 Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Digwyddiadau rhad ac am ddim
Archebwch erbyn 15/02/24, os hoffech gael cymorth gyda threfniadau teithio
Archebwch erbyn 22/02/24, os ydych yn cael cinio
CYSYLLTWCH A NI:
Ali Evans (Cydlynydd Ymgysylltu)
01437 774766 / 07500 446611 [email protected]
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni