Mae ein Sioe Deithiol Cymorth Digidol yn dod i un o’ch strydoedd lleol chi!

Mae sioe deithiol cymorth digidol ateb yn ei hôl ar gyfer 2024, sy’n golygu y bydd Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, a Dot.e ar stepen eich drws.

Oes angen help arnoch gyda’r canlynol:

  • Gwneud ceisiadau am Gredyd Cynhwysol / mudo i Gredyd Cynhwysol
  • Creu Fy Nghyfrif ateb
  • Cofrestru ar gyfer rhaglen hyfforddiant digidol Learn My Way
  • Cael cymorth cyffredinol gyda dyfeisiau digidol
  • Cael benthyg dyfais ddigidol (a chael ambell gyngor am sut i’w defnyddio)
  • Cael mynediad i’r rhyngrwyd? Gall Andrew helpu rhai cwsmeriaid drwy ddarparu cerdyn sim â data rhad ac am ddim

Dewch draw i weld Andrew a Dot.e (ein fan cymorth digidol) mewn un o 16 o leoliadau ar draws Sir Benfro.

Rydym hefyd yn cynnal clybiau cyfrifiadurol wythnosol yn ein Cynlluniau Byw’n Annibynnol, lle bydd Andrew yn mynd drwy raglen Learn My Way. Dyma ffordd wych i ddechreuwyr ddysgu am bethau sylfaenol megis diogelwch ar y rhyngrwyd, siopa, bancio, ac ati. Os nad ydych yn byw yn un o’r cynlluniau, ffoniwch ni ar 0800 854 568 i gadw eich lle.

I gael gwybod mwy am y Sioe Deithiol Cymorth Digidol, cysylltwch ag Andrew ar 01437 774 770.

Cyhoeddwyd: 30/05/2024