Family and Team in front of van

Tîm ateb yn dod ynghyd ar gyfer diwrnod glanhau cymunedol yn Thornton

Yr wythnos diwethaf aethom ati i dorchi llewys a gweithio’n galed i wneud Stryd Shearwater yn Thornton yn lle mwy glân a thaclus i fyw ynddo. Trefnwyd y digwyddiad codi sbwriel gan y Cydlynwyr Tai, sef Clayton, Daria a Jess, a’i fwriad oedd dod â’r gymuned ynghyd a chlirio’r annibendod a achoswyd gan y stormydd diweddar.

Roedd yr ymateb yn wych o’r dechrau’n deg. Daeth 11 o gwsmeriaid gan gynnwys plant i helpu i godi sbwriel, ac wrth i’r bore fynd rhagddo daeth mwy o breswylwyr draw i gael sgwrs, a oedd yn golygu bod cyfanswm o ryw 20 o gwsmeriaid wedi ymwneud â ni. Roedd aelodau tîm ateb yno yn llu hefyd, gyda chydweithwyr o’r timau Gwaith Atgyweirio, Cyfleusterau, Tai a Datblygu Cymunedol, Byw’n Annibynnol a Chyfathrebu i gyd yn cymryd rhan. Gyda chynifer o bobl yn barod i helpu, cyflawnwyd llawer mwy na’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol, sef canolbwyntio ar un ardal fach yn unig, ac erbyn diwedd y digwyddiad roedd yr ystâd gyfan bron iawn wedi cael sylw!

Gwaith tîm go iawn

Ein fan Dot.e oedd canolbwynt y gweithgarwch, lle’r oedd diodydd poeth, sudd a chacennau’n cael eu darparu i bawb a oedd yn cymryd rhan. Roedd aelodau’r tîm wrth law drwy’r dydd i sgwrsio â chwsmeriaid a helpu i sicrhau bod gan bawb yr hyn yr oedd arnynt ei angen. Cafodd y gwirfoddolwyr iau daflenni defnyddiol wedi’u lamineiddio a oedd yn dangos iddynt pa fath o sbwriel i’w gasglu a pha fath o bethau i’w hosgoi – roedd papurau losin a chaniau yn bethau i’w casglu, ond roedd pethau miniog a baw ci yn bethau i’w hosgoi yn bendant!

Tynnodd Joe, preswylydd lleol, sylw at yr heriau sy’n codi wrth geisio cadw’r ardal yn daclus, gan egluro bod sbwriel yn aml yn hedfan i lawr y stryd pan fydd gwyntoedd cryfion yn hyrddio. Roedd ei ferch 13 oed a’i ffrind wedi’u synnu gan yr holl sbwriel yr oeddent wedi’i weld. Meddent, “Byddwn i’n bendant yn herio fy ffrindiau pe na baent yn defnyddio bin. Mae’n ofnadwy!”

Daeth Arlene, cwsmer arall sy’n byw ar y stryd, draw gyda’i gor-ŵyr pedair oed, Ezavier. Roedd hi am ddangos iddo mor bwysig yw gofalu am eu cymuned, ac mae’n deg dweud bod Ezavier wedi deall y neges! Roedd yn ddigon parod i rannu ei farn gan ddweud, “Mae sbwriel yn beth drwg! Roedd pwmpen yn y parc, a dydw i ddim yn gwybod pam y mae pobl yn rhoi eu sbwriel yno!”

Grandmother and Child

Pam y mae digwyddiadau o’r fath yn bwysig

Eglurodd ein Cydlynydd Tai, Clayton, pam y mae digwyddiadau codi sbwriel tebyg i hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth:
“Nid yw’r Cyngor yn darparu biniau cyhoeddus mewn ardaloedd preswyl, ac er bod rhai cwsmeriaid wedi gofyn i ni ddarparu rhai, byddai angen i ni godi tâl gwasanaeth ychwanegol a byddai’n well gennym osgoi gwneud hynny. Dyna pam y mae’r diwrnodau glanhau yma mor bwysig – maent yn rhoi cyfle i gwsmeriaid ymfalchïo yn eu hardal a gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Roedd mwy i’r diwrnod na thacluso hefyd – roedd yn ffordd wych i gwsmeriaid gwrdd â’u cymdogion ac i dimau ateb greu cysylltiadau â’r gymuned. Gwnaeth y diwrnod hyd yn oed arwain at syniadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol ar-lein. Meddai un cwsmer, “Mae angen i ni wneud hyn yn Ffordd Princess Royal!”

Hoffech chi drefnu diwrnod glanhau yn eich ardal chi?

Os hoffech drefnu digwyddiad tebyg yn yr ardal yr ydych chi’n byw ynddi, cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai – byddem wrth ein bodd yn eich helpu i wneud hynny! Diolch o galon i bawb a gymerodd ran. Trwy weithio fel tîm, gall pob un ohonom helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn edrych ar eu gorau! 💙

Published: 14/02/2025