Yn ddiweddar cynhaliodd ateb, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Ddigwyddiad Llesiant yng nghymuned Hubberston a Hakin. Bwriad y digwyddiad oedd cysylltu preswylwyr ag ystod o asiantaethau cymorth, ac roedd arweiniad ar gael ynghylch popeth o iechyd i gyngor am arbed ynni a chyngor am yrfaoedd. Diben y cyfan oedd ceisio helpu pobl i ymdopi â heriau’n ymwneud â chostau byw.
Roedd sesiynau ymarferol, bywiog yn rhan o’r digwyddiad. Yn eu plith yr oedd gweithdai gwaith coed i bobl o bob oed, a gynhaliwyd gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Silbers, a dosbarthiadau coginio dan arweiniad Kate Smith, Ymarferydd Maeth Cymunedol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd pawb eu gwahodd i fod yn greadigol drwy greu pitsas arswydus a throi puprynnau yn llusernau ar gyfer Calan Gaeaf. Bu hynny’n fodd i bobl ddatblygu sgiliau coginio ymarferol, cymharu prisiau ac archwilio opsiynau iachach o ran bwyd.
Meddai Ailinor Evans, Cydlynydd Ymgysylltu ateb: “Roedd yn fendigedig gweld teuluoedd ac unigolion yn coginio ac yn archwilio ffyrdd newydd o wneud dewisiadau iach gyda’i gilydd. Mae digwyddiadau fel hyn yn cynnig ffordd wych o wneud dysgu am faeth yn weithgaredd hwyliog ac ymarferol, ac yn ffordd wych hefyd o gysylltu pobl ag adnoddau y gallant eu defnyddio bob dydd.”
Roedd cymysgedd o asiantaethau iechyd, asiantaethau lles ac asiantaethau cymunedol yn bresennol. Bu Hwb Cymunedol Sir Benfro yn cynnig cysylltiadau â gwasanaethau eraill, bu Future Works yn darparu cymorth ynghylch gyrfaoedd, ac roedd adran cymorth digidol ateb ei hun wrth law i helpu cyfranogwyr i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau ar-lein. Bu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Thîm Allgymorth Cymunedol Hywel Dda yn cynnig adnoddau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, a bu Pathway Counselling a Gwasanaeth Cludiant Cymunedol Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) yn rhannu gwybodaeth hanfodol am iechyd meddwl a chludiant i’r sawl sydd mewn angen.
Dangosodd adborth o’r digwyddiad fod y cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r wybodaeth a’r ysbryd cymunedol a oedd yn amlwg yno. Dywedodd y sawl a oedd yn bresennol eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan y digwyddiad i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw mewn amryw ffyrdd, o wneud dewisiadau iachach ynghylch bwyd i ailgylchu, a hyd yn oed i ddechrau gwneud gwaith coed fel hobi. Roedd y digwyddiad yn amgylchedd hamddenol lle gallai pobl sgwrsio â Thîm Tai ateb a thrafod cwestiynau’n ymwneud â’u tenantiaethau. Yn ogystal, mynegodd sawl un a oedd yn bresennol ddiddordeb mewn ymuno â mentrau sydd ar ddod yn ateb, megis digwyddiadau’r Fforwm Cwsmeriaid a’r Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Enillwyr y raffl ac uchafbwyntiau’r digwyddiad
Tynnwyd raffl ar ddiwedd y dydd, ac aeth y gwobrau i enillwyr lwcus o Hakin a Thornton. Cafodd llyfrau coginio arbennig eu rhoi’n wobrau i dri chyfranogwr ifanc a gymerodd ran yn y gystadleuaeth Gwisg Ffansi Calan Gaeaf.
Diolch i bawb a ymunodd â ni. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau cymunedol a chynorthwyo preswylwyr wrth i ni gydweithio â’n gilydd i greu amgylcheddau cryfach â chysylltiadau gwell ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin.
Cyhoeddwyd 6/11/2024