Ydy – mae yn ei ôl: Y Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn 3 lleoliad ar wahân. Felly, byddwch yn awr yn gallu mwynhau pob un o’r elfennau gwreiddiol yn un o’r digwyddiadau hyn, a fydd yn llai o faint:
- Pryd o fwyd blasus a lluniaeth arall
- Cyfle i fyfyrio – lle bydd aelodau uwch o staff yn eich tywys drwy’r flwyddyn ddiwethaf yn ateb
- Cynllunio Strategol – lle cewch gyfle i drafod syniadau mewn grwpiau bach, gyda help aelod o staff, er mwyn cyfrannu i gynllun strategol ateb ar gyfer y dyfodol
- Datblygu Cymunedol – sesiwn ryngweithiol arall a fydd yn seiliedig ar wella’r cymunedau yr ydych yn byw ynddynt
The Harp – Treletert, 4 Mai 2022 – 12yb to 4yh
The Gower – Saundersfoot, 12 Mai 2022 – 1yh to 5yh
Theatr y Torch – Aberdaugleddau, 18 Mai 2022 – 6.15yh to 9.45yh
Drwy fynychu’r digwyddiad, rydych yn rhoi caniatâd i luniau a fideos a fydd yn cael eu tynnu a’u recordio yn ystod y digwyddiad, ac a allai eich cynnwys chi, gael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan ateb.
Efallai y bydd angen i ni gynnwys arweiniad ynghylch Covid-19. Bydd yr arweiniad yn cael ei roi’n nes at yr amser i’r bobl a fydd yn cofrestru ar gyfer y digwyddiadau, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys y manylion diweddaraf a’i fod yn cyd-fynd â chyngor diweddaraf y llywodraeth.
Mae’r tri lleoliad yn hygyrch a gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion synhwyraidd neu ddietegol.
Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle drwy gysylltu â ni er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer eich holl anghenion. I gadw eich lle a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion dietegol neu anghenion eraill, gan gynnwys ceisiadau am help gyda thrafnidiaeth, cysylltwch â
- Ali Evans 01437 774766
- Sue Mackie 01437 774769
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni….