Dim ond gwaith atgyweirio mewn argyfwng yn ymwneud â systemau gwresogi a phlymwaith y gellir ei wneud yn awr

Dim ond gwaith mewn argyfwng yn ymwneud â systemau gwresogi a phlymwaith, a chadw apwyntiadau ar gyfer rhoi gwasanaeth i systemau gwresogi, y gallwn ei wneud yn awr oherwydd helyntion Covid a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Mae Covid-19 yn achosi prinder staff ar draws pob sector, ac mae hynny’n effeithio ar ein timau ni hefyd yn anffodus.

Rydym yn gweithio’n galed i gysylltu â phawb y mae hynny’n effeithio arnynt, a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted ag y gallwn er mwyn symud apwyntiadau i’r flwyddyn newydd.

Gwaith atgyweirio mewn argyfwng yw unrhyw broblemau sy’n peryglu bywyd neu adeiladwaith eich cartref, er enghraifft pibellau sydd wedi byrstio, draeniau sydd wedi blocio, neu ddim gwres. Gallwch barhau i roi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio mewn argyfwng yn yr un ffordd ag arfer drwy ein ffonio ar 0800 854 568.

Os ydych yn disgwyl i ni roi gwasanaeth ac archwiliad diogelwch i’ch boeler a’ch system wresogi, bydd eich apwyntiad yn aros fel y mae. Os bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi a chanslo eich apwyntiad oherwydd prinder peirianwyr, byddwn yn aildrefnu eich apwyntiad ac yn ei symud i’r amser nesaf sydd ar gael ac sy’n gyfleus i chi.

Unwaith eto, hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra wrth i ni roi blaenoriaeth i ddiogelwch ein cwsmeriaid a’n timau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Diolch.

Cyhoeddwyd: 16/12/2021